2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2018.
1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OAQ51888
Mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i ddarparu barn arbenigol, annibynnol a hirdymor. Mae wedi dechrau ar y gwaith ac mae wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu.
Fis wedi iddo gael ei benodi'n Arglwydd Brif Ustus, rhoddodd yr Arglwydd Thomas ddarlith yn dweud bod cyfreithwyr Ewrop yn edmygu system gyfreithiol Cymru a Lloegr oherwydd ei hannibyniaeth, ei phroffesiynoldeb a'r ffaith ei bod wedi bod yn sylfaen hanfodol i'n ffordd ddemocrataidd o fyw, ac i'n ffyniant cyffredinol ers cannoedd o flynyddoedd. Er bod llawer ohonom yn gyfarwydd â rhesymeg awdurdodaeth yn dilyn deddfwrfa ac yn gwybod bod ein sefyllfa bresennol yn un anarferol, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod y comisiwn yn cynnig y dull cywir i sicrhau ystyriaeth ofalus a rhywfaint o bwyll cyn ceisio gwahanu neu neilltuo ein hunain oddi wrth awdurdodaeth a rennir sy'n gymaint o lwyddiant â'r un a ddisgrifiwyd gan yr Arglwydd Thomas?
Mae'r Aelod yn cydnabod nad yw'r mater yn un syml. Ceir sawl safbwynt gwahanol ynglŷn â'r mater hwn. Fe fydd yn ymwybodol o safbwynt Llywodraeth Cymru, fel y'i nodir ym Mil drafft Llywodraeth Cymru sydd ar gael i'r cyhoedd. Fel yr unig ddeddfwrfa y gallwn feddwl amdani nad oes ganddi ei hawdurdodaeth ei hun, mae'n berffaith amlwg fod hynny'n peri heriau sylweddol iawn, a chyfyngiadau sylweddol iawn ar weithredu ein pwerau datganoledig, ac mewn gwirionedd mae hynny wedi siapio'r setliad datganoli mewn ffordd nad yw'n ddefnyddiol i bobl Cymru. Pe baem wedi cael trefniadau awdurdodaethol gwahanol, ni fyddai rhai o'r cyfyngiadau sy'n ein hwynebu yn bodoli, a byddai modd inni ddefnyddio ein pwerau'n fwy cyffredinol, ac efallai, yn fwy effeithiol mewn rhai meysydd. Felly, credaf fod angen ystyried hynny yn y cyd-destun hwn.
Mae sawl ffordd o sicrhau ein bod yn cynnal dibynadwyedd, sicrwydd ac enw da'r awdurdodaeth a weithredir gennym yma yng Nghymru, yn ogystal â'r hyn a weithredir yn Lloegr. Ni pheryglir dim o hynny gan awdurdodaeth neilltuol neu ar wahân, a chredaf mai rhan o'r daith rydym arni gyda'r comisiwn hwn yw esbonio ac ystyried hynny mewn ffordd sy'n arbenigol ac yn annibynnol, ac sy'n sail i well dealltwriaeth ymhlith pobl yng Nghymru o rinweddau awdurdodaeth neilltuol, ac awdurdodaeth ar wahân maes o law.
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei fod e eisiau cael system droseddol wahanol i Gymru, mewn ateb yn yr wythnosau diwethaf, ond nid yw polisi y Llywodraeth hon yn glir iawn ynglŷn â charchardai newydd yma yng Nghymru. Mae'r Prif Weinidog yn dueddol o fod yn fwy parod i dderbyn hynny na'r Gweinidog newydd, Alun Davies. Pa drafodaethau mae'r comisiwn wedi eu cael yng nghyd-destun y ffaith, petasai yna garchar newydd yma yng Nghymru, a phe byddai yna fwy o ofyn am bobl o'r tu allan i Gymru i fynd i'r carchar hynny na phobl o Gymru ei hun, sut fyddai modd creu polisi cynhenid unigryw i Gymru yng nghyd-destun y ffaith bod pobl o wahanol ardaloedd o Brydain yn mynd i fod yn dod i garchardai yng Nghymru?
Fe wnes i nodi cynnwys y ddadl a ddaeth ymlaen yn enw Jenny Rathbone ar y testun hwn yn y dyddiau diwethaf, a chyfraniad yr Aelod yn y cyd-destun hwnnw. Mae'r comisiwn wedi galw am dystiolaeth wrth bobl yng nghyd-destun y system droseddol, felly byddwn i'n annog yr Aelod, ac eraill, i gyfrannu at y cwestiwn hwnnw. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ateb i'r ddadl, sôn am ba mor bwysig oedd hi i gael system droseddol a oedd yn gymwys i anghenion pobl yng Nghymru, ac i nodweddion penodol carcharorion yng Nghymru. Rhoddodd e'r enghraifft nad oes carchardai ar gyfer menywod yng Nghymru—bod angen polisi sydd yn lot fwy gwahanol yng Nghymru nag y mae'r Llywodraeth yn ei ddilyn yn San Steffan. Felly, rwy'n gobeithio y bydd datblygiadau yn y maes hwnnw, ac yn sicr, o safbwynt carchardai, fod angen polisi penodol yn yr hir dymor ar gyfer anghenion Cymru.