Erthylu

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:33, 14 Mawrth 2018

Diolch am yr ymateb, Cwnsler Cyffredinol. Rwyf i o'r farn, fel y mae e newydd ei amlinellu yn y datganiad barn, y dylid cymryd agwedd feddygol tuag at hyn, yn hytrach nag agwedd gyfreithiol sydd wedi ei seilio ar hen gyfraith yn deillio o rai o'r trafodaethau moesegol a oedd yn digwydd dros hanner canrif yn ôl. Erbyn hyn, rwy'n credu ein bod ni'n edrych ar hwn drwy bersbectif, a thrwy lygaid, meddygol, a beth sydd orau ar gyfer y fenyw, a beth sydd orau ar gyfer iechyd. Felly, fy nealltwriaeth i, fel sydd newydd gael ei grybwyll gan y Cwnsler Cyffredinol, yw bod yna amheuaeth gyfreithiol ynglŷn ag agwedd ar hyn, ac, os felly, a oes angen bod yn fwy eglur ynglŷn â'r sefyllfa gyfreithiol yma yng Nghymru, ac a oes gan y Llywodraeth fwriad i fynd i'r afael â'r broblem yna?