Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 14 Mawrth 2018.
Rydym yn astudio dogfen ddrafft yr UE yn ofalus. Ein blaenoriaethau ar gyfer pontio yw sicrwydd, eglurder a chyn lleied o amharu â phosibl. Mae'n hanfodol fod y cyngor ym mis Mawrth yn cytuno ar y cyfnod pontio oherwydd mae'r ansicrwydd presennol yn rhwystro cynllunio priodol, ac nid yw hynny'n help a dweud y lleiaf.