2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2018.
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith cytundeb drafft y Comisiwn Ewropeaidd ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar Gymru? OAQ51908
Rydym yn astudio dogfen ddrafft yr UE yn ofalus. Ein blaenoriaethau ar gyfer pontio yw sicrwydd, eglurder a chyn lleied o amharu â phosibl. Mae'n hanfodol fod y cyngor ym mis Mawrth yn cytuno ar y cyfnod pontio oherwydd mae'r ansicrwydd presennol yn rhwystro cynllunio priodol, ac nid yw hynny'n help a dweud y lleiaf.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Cyhoeddwyd dogfen godeiddio drafft y cytundeb ymadael yn dilyn cyfarfod mis Rhagfyr Cyngor y Gweinidogion er mwyn sicrhau eu bod yn cadarnhau'r cytundeb. Mae'n cynnwys chwe rhan, dau brotocol, 165 o erthyglau, gan ganolbwyntio'n glir ar gytundeb cyfnod 1, ond hefyd ar y cyfnod pontio, ac mae'n cwmpasu meysydd sy'n cynnwys hawliau a gaffaelwyd gan ddinasyddion, a grybwyllwyd gennych yn y cwestiwn blaenorol, ond hefyd y materion yn ymwneud ag eiddo deallusol, efallai, yn ogystal ag agweddau eraill ar faterion busnes a rheoleiddio, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio. Pa drafodaethau a gawsoch gyda swyddogion cyfreithiol eraill ar draws y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu gwarchod yn ystod y broses hon?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, sy'n gwbl allweddol ac yn cyfeirio'n ôl at y pwynt rwyf newydd ei wneud ynglŷn â'r angen pendant i gael sicrwydd, ar gyfer dinasyddion Cymru ac ar gyfer busnesau sy'n allforio i weddill yr UE. Un o'r pethau anhysbys mwyaf arwyddocaol ar hyn o bryd yw natur y trefniadau ar gyfer gweithredu'r cytundeb ymadael. Cyflwynodd Dominic Grieve welliant llwyddiannus yn Nhŷ'r Cyffredin a bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Bil ar wahân yn awr. Ond nid ydym yn gwybod yn Llywodraeth Cymru pryd y bydd hwnnw'n cael ei gyflwyno na beth fydd yn ei ddweud, na'r berthynas rhyngddo a Bil ymadael â'r UE, er enghraifft. Felly, mae honno'n enghraifft glir o'r math o ansicrwydd y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef yn syth. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgynghori â ni ynglŷn â'r mater ac nid ydym yn gwybod pa faterion datganoli penodol a fydd yn codi ohono, sy'n amlwg yn ganolog i hyn. Rydym wedi gweld, yng nghyd-destun y trafodaethau ynghylch Bil ymadael â'r UE, pa mor wirioneddol hanfodol yw'r cwestiynau hynny mewn perthynas â datganoli, er mwyn i ni warchod ein hawliau yn y Siambr hon ar ran pobl Cymru. Felly, rydym angen i Lywodraeth y DU ymgysylltu â ni ar ei dull arfaethedig ar gyfer gweithredu'r cytundeb ymadael fel mater o flaenoriaeth.
Gwnsler Cyffredinol, mae'r cytundeb drafft yn argymell ardal reoleiddio gyffredin mewn perthynas ag Iwerddon, ac yn briodol, mae'n argymell y dylid cynnal cytundeb Dydd Gwener y Groglith, economi Iwerddon gyfan a chydweithrediad rhwng y gogledd a'r de. Mae'r ffaith bod y DU eisiau gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn golygu y byddai'n rhaid creu ffin galed ym Môr Iwerddon ac ym mhorthladdoedd Cymru. Mae fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth wedi crybwyll hyn ar sawl achlysur, ond o'ch persbectif chi, a oes unrhyw ffordd y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar unrhyw drafodaethau sy'n ymwneud â natur ffin y DU ag Iwerddon, neu gymryd rhan ynddynt hyd yn oed?
Yr her mewn perthynas â'r hyn a gynigir gan Lywodraeth y DU yng nghyswllt Iwerddon yw pa mor anodd yw rhagweld y math o atebion penodol y gallant eu cyflwyno i sicrhau ffin feddal tra'n cynnal cyfundrefnau tollau a rheoleiddio yng Ngogledd Iwerddon sydd ar wahân i rai'r UE. O'n persbectif ni, y canlyniad mwyaf rhesymegol fyddai i'r DU gyfan barhau i fod wedi'i halinio'n llawn â'r farchnad sengl a pharhau mewn undeb tollau. Nid ydym yn argyhoeddedig o gwbl y byddai manteision economaidd posibl cytundebau masnach rydd yn gorbwyso costau economaidd rhwystrau tollau rhwng y DU a'r UE. Fel Llywodraeth, rydym yn bachu ar bob cyfle i ailddatgan y safbwynt hwnnw wrth Lywodraeth y DU.
Gwnsler Cyffredinol, ddoe, croesewais y gyfraith sy'n deillio o Fil yr UE (Cymru), gan gyfeirio'n benodol at adran 7, sy'n caniatáu i gyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE gael ei dehongli yn unol â siarter hawliau sylfaenol Ewrop, nad yw'n cael ei throsi i gyfraith y DU drwy Fil ymadael â'r UE. A ydych yn cytuno bod y siarter yn hanfodol i ddiogelu cydraddoldeb ac amddiffyniad hawliau dynol, ac a yw adran 7 y Bil yn ddigon cadarn, o gofio, os yw'r Bil ymadael â'r UE yn mynd rhagddo fel ag y mae, y bydd cyfreithiau mewn meysydd a oedd o fewn cymhwysedd yr UE yn y gorffennol, megis diogelwch i ddefnyddwyr a hawliau gweithwyr, mewn perygl?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Mae hynny'n wir. Mae amddiffyn hawliau dynol yn rhan hanfodol o'r pecyn cymorth sydd gennym yng Nghymru ac yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl glir nad yw eisiau i'r ffaith bod y DU yn ymadael â'r UE wanhau amddiffyniadau hawliau dynol mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys yr amddiffyniadau estynedig sydd ar gael o dan y siarter, y cyfeiriodd Jane Hutt atynt yn ei chwestiwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ymdrechion parhaus i ddiwygio'r Bil ymadael â'r UE yn Nhŷ'r Arglwyddi er mwyn sicrhau bod y siarter yn cael ei hymgorffori'n llwyr yng nghyfraith y DU yn dilyn Brexit, ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i edrych ar y mater hwn eto a dod yn ôl i Dŷ'r Arglwyddi yn ystod y Cyfnod Adrodd gyda chynigion pellach mewn perthynas â hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu o hyd mai'r canlyniad gorau i hyn yw i'r Bil ymadael â'r UE gynnwys cyfeiriad at y siarter a pharhau i weithredu'r siarter yn y DU yn dilyn Brexit. Os na chyflawnir hynny, mae adran 7 ein Bil, er nad yw'n ymgorffori'r siarter yn yr ystyr honno, yn darparu lefel dda o amddiffyniad. O fewn y Bil hwnnw, mae'n rhaid i ni lywio mater cymhleth cymwyseddau datganoledig yn y maes hwn, ac mae'n bwysig sicrhau ein bod yn sicr fod darpariaethau'r Bil yn gymwys. Ac mewn perthynas â'r cymal hwnnw, rydym yn teimlo bod cynnwys cyfeiriad at y siarter yn y ffordd honno'n rhoi cyfle i ddehongli cyfraith yr UE mewn ffordd sy'n gyson â'r siarter ac sy'n sicrhau yn yr ystyr honno yr amddiffyniadau rydym am eu gweld yn cael eu cynnal yng Nghymru yn dilyn Brexit.