2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2018.
4. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i gyflwyno gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau? OAQ51903
Rydym ni wedi clywed y ddadl ar y ddeiseb a gynhaliwyd yn y diwrnodau diwethaf, a arwyddwyd gan bron i 6,500 o aelodau'r cyhoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn archwilio’r cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru.
Diolch am yr ateb yna, sydd ddim yn ein symud ni ymlaen i ddeall beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud. Mae'n amlwg bod modd defnyddio'r adran yma, sydd yn rhoi pwerau eang iawn i Weinidogion, a dweud y gwir, i ymyrryd dros les anifeiliaid. Ac mae'n amlwg hefyd bod modd i ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol yn y lle yma—Bil a Mesur yn mynd drwyddo. Yn y gorffennol, rydych chi fel cwnsler, a chwnsleriaid blaenorol, wedi ffafrio ar y cyfan Biliau, achos maen nhw'n rhoi cyfle i roi cyd-destun, ac efallai i dacluso agweddau eraill o'r gyfraith hefyd. Ond mae'n amlwg bod y Cynulliad yn meddwl ac yn dymuno gweld gweithredu buan iawn yn yr adran yma. Mae Plaid Cymru o'r farn ei bod hi'n briodol defnyddio adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 ac rwyf am weld lle mae meddwl y Llywodraeth bellach ynglŷn â defnyddio hon, gan fod cymaint o ddeddfwriaeth arall ar y gweill, yn deillio o Brexit a phethau eraill. Onid nawr yw'r amser i chi roi'r cyngor cyfreithiol priodol i alluogi Lesley Griffiths i fwrw ymlaen â'r mater yma?
Wel, gydag adran 12 o Ddeddf 2006, yr hyn sy'n bwysig yw bod tystiolaeth gref yn cefnogi'r ddadl dros lesiant yr anifeiliaid. Mae safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn glir nad oes safbwynt digon cryf i hynny, ac mae mwy nag un adroddiad wedi dangos hynny. Wrth gwrs, gwnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu adroddiad wnaeth ddangos bod tystiolaeth yn cefnogi hynny i raddau, ond y risg o fewn y dadansoddiad llesiant yw nad yw hynny'n ddigon i allu gwrthsefyll unrhyw ymosodiad cyfreithiol yn y llysoedd. Mae trafodaeth wedi bod, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet grybwyll yn y ddadl yn ddiweddar. Bu trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â Bil ar y cyd, i sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno yn gallu taclo'r sialens yma, ond bod hynny wedi cymryd amser. Mae trafodaethau neu ystyriaeth wedi bod i Ddeddf benodol i ddelio â hyn, ac mae'r pwerau a ddaw i ni dan y setliad newydd yn ehangach, wrth gwrs, a ddim yn ein cyfuno ni i edrych ar lesiant yn benodol. Gwnes i wrando ar sylwadau yr Aelodau a sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yn y ddadl, ac ni allaf drafod cyngor cyfreithiol fan hyn, ond rwyf yn deall cryfder safbwyntiau pobl yn y cyd-destun hwnnw.
A gawn ni fod yn glir, a yw adran 12 yn eich galluogi i wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ai peidio?
Wel, cyfeiriaf yr Aelod at y drafodaeth rwyf newydd ei chael ynglŷn â hynny, sy'n ymwneud ag argaeledd y dystiolaeth i gefnogi hynny. Mae cwestiwn yn codi ynglŷn â hynny ac fel rwyf wedi'i ddweud, nid wyf am drafod cyngor cyfreithiol rwy'n ei roi ar y pwynt penodol hwn, ond rwyf wedi clywed y drafodaeth yn y ddadl a sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â hynny.