Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 14 Mawrth 2018.
Gwnsler Cyffredinol, mae'r cytundeb drafft yn argymell ardal reoleiddio gyffredin mewn perthynas ag Iwerddon, ac yn briodol, mae'n argymell y dylid cynnal cytundeb Dydd Gwener y Groglith, economi Iwerddon gyfan a chydweithrediad rhwng y gogledd a'r de. Mae'r ffaith bod y DU eisiau gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn golygu y byddai'n rhaid creu ffin galed ym Môr Iwerddon ac ym mhorthladdoedd Cymru. Mae fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth wedi crybwyll hyn ar sawl achlysur, ond o'ch persbectif chi, a oes unrhyw ffordd y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar unrhyw drafodaethau sy'n ymwneud â natur ffin y DU ag Iwerddon, neu gymryd rhan ynddynt hyd yn oed?