5. Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 20 mewn perthynas a'r Datganiad am Gynigion y Gyllideb Ddrafft

– Senedd Cymru am 3:17 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:17, 14 Mawrth 2018

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 20 mewn perthynas â'r datganiad am gynigion y gyllideb ddrafft. Rydw i'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6690 Elin Jones

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 20—Datganiad am Gynigion y Gyllideb Ddrafft', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2018.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 20, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.