– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 14 Mawrth 2018.
Yr eitem nesaf yw'r enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig—Simon Thomas.
Cynnig NDM6691 Simon Thomas
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.5:
1. Yn mynegi ei ddiolchgarwch am gyfraniad Huw Vaughan Thomas yn ystod ei dymor yn swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru.
2. Gan weithredu o dan adran 2(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn unol ag adran 2(3), yn enwebu Adrian Crompton i’w benodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o wyth mlynedd i ddechrau’n syth ar ôl i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru ddod yn wag.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fel y bydd Aelodau yn gwybod, mae'n siwr, penodiad y Goron yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn dilyn enwebiad gan y Cynulliad cyfan o dan adran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Fel y pwyllgor sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig dros oruchwylio trefniadau yn ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae’r Pwyllgor Cyllid wedi chwarae rhan lawn yn y broses o recriwtio archwilydd cyffredinol newydd. Mae manylion llawn y broses recriwtio yn adroddiad y pwyllgor. Rwyf yn falch, felly, o wneud y cynnig hwn heddiw, ar ran y Pwyllgor Cyllid, i enwebu Adrian Crompton i’w Mawrhydi ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Hoffwn ddiolch i’r archwilydd cyffredinol presennol, Huw Vaughan Thomas, am ei gyfraniad gwerthfawr yn ystod y saith mlynedd y mae wedi bod yn y swydd. Cafodd Huw ei benodi ar adeg anodd i Swyddfa Archwilio Cymru, ond mae wedi gweithio i wneud gwahaniaeth sylfaenol i ddiwylliant y sefydliad ac i adfer hyder y cyhoedd yn y swydd. Yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae gan yr archwilydd cyffredinol rôl hanfodol, gan sicrhau bod sefydliadau’n rheoli arian cyhoeddus mewn modd effeithlon a bod ganddynt drefniadau gweithredu cadarn ar waith i sicrhau eu bod o’r radd flaenaf o ran uniondeb a llywodraethu.
Fel yr amlinellwyd yn adroddiad y pwyllgor, roedd yn hanfodol bod y broses ar gyfer recriwtio archwilydd cyffredinol yn cael ei chynnal mewn modd a fyddai’n dileu yr awgrym lleiaf o ymyrraeth wleidyddol. Yn hynny o beth, gwnaethom sicrhau bod dwy blaid yn cael eu cynrychioli ar y panel penodi. Cynrychiolodd Nick Ramsay a minnau’r pwyllgorau yr ydym yn eu cadeirio, gyda chadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol yr Alban hefyd ar y panel. Ar ôl y cyfweliadau, aeth yr ymgeisydd a ffafriwyd gerbron y Pwyllgor Cyllid trawsbleidiol ar gyfer gwrandawiad cyhoeddus cyn enwebu. Mae’r pwyllgor o’r farn bod gwrandawiad cyn enwebu yn sicrhau craffu agored a thryloyw ar yr ymgeisydd a ddetholwyd. Ddaeth Adrian Crompton, felly, gerbron gwrandawiad cyn enwebu y pwyllgor ar 31 Ionawr. Yn ystod y gwrandawiad, gwnaethom archwilio cymhwysedd proffesiynol Mr Crompton, sut y mae’n bwriadu ymgymryd â rôl yr archwilydd cyffredinol, a’r profiad a’r arbenigedd sydd ganddo a fydd yn berthnasol i’r swydd.
Felly, dyma ofyn i’r Cynulliad dderbyn y cynnig hwn i enwebu Adrian Crompton i’w Mawrhydi ei benodi’n Archwilydd Cyffredinol Cymru.
A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r cynnig hwn a'r enwebiad arfaethedig i'w Mawrhydi y Frenhines? Mae wedi bod yn anrhydedd gweithio gydag Adrian Crompton am flynyddoedd lawer, ac yn fwyaf diweddar yn ystod fy nghyfnod fel Dirprwy Lywydd. Mae'n ddyn sy'n meddu ar lefel uchel o onestrwydd, eglurder meddwl, a'r ymrwymiad dyfnaf i graffu mewn bywyd cyhoeddus. Yn anad dim, mae Adrian Crompton wedi bod yn hyrwyddo cangen ddeddfwriaethol y llywodraeth. Bydd y cefndir hwn yn ei wneud yn archwilydd cyffredinol rhagorol ac arloesol, yn fy marn i. Dymunwn yn dda iddo yn y swydd bwysig hon. A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i Huw Thomas, yr archwilydd cyffredinol sy'n gadael, am yr holl waith gwych y mae wedi'i wneud? Mae gwaith yr archwilydd cyffredinol yn gymorth mawr i ni yn ein rôl yn craffu ar waith y llywodraeth ac asiantaethau cyhoeddus, ac mae llawer o addewid yn awr gyda'r penodiad newydd hwn.
A gaf fi gytuno â sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a hefyd fy nghyd-Aelod, David Melding? Bu'n fraint gweithio gyda Huw Vaughan Thomas fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod y Cynulliad hwn, a gwn fy mod yn siarad ar ran fy rhagflaenwyr mewn Cynulliadau blaenorol wrth ddweud hynny—Darren Millar, David Melding, a Jonathan Morgan hefyd. Hoffwn ddiolch i Huw am ei wasanaeth hir ac ymroddedig i fywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac am ei ymrwymiad yn cynghori'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth gyflawni ei rôl o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei gwariant yn ystod y cyfnod hwnnw. Dylid canmol Huw am ei arweinyddiaeth nodedig i Swyddfa Archwilio Cymru ac am oruchwylio dros gyfnod o sefydlogrwydd. Cyflwynodd ymagwedd newydd tuag at waith archwilio, gan daflu goleuni ar nifer o faterion ariannol a llywodraethu pwysig ac arwyddocaol, sydd wedi arwain at ddiogelu pwrs y wlad. Mae bellach yn bryd edrych tua'r dyfodol. Roeddwn yn falch o chwarae rhan yn y broses ddethol ar gyfer penodi'r archwilydd cyffredinol newydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Adam Crompton a'r tîm cryf yn Swyddfa Archwilio Cymru dros y misoedd i ddod. Rwy'n hapus i gefnogi'r enwebiad hwn.
A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i'r archwilydd cyffredinol sy'n gadael, Huw Vaughan Thomas? Cefais y fraint o allu gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am bum mlynedd o'i gyfnod yn y swydd, ac wrth gwrs, camodd i'r swydd honno ar adeg anodd tu hwnt i Swyddfa Archwilio Cymru, oherwydd digwyddiadau a oedd wedi digwydd yn syth cyn ei benodiad. Ond gwnaeth hynny mewn ffordd a ddaeth â'r tîm at ei gilydd ac mae wedi cynhyrchu adroddiadau o ansawdd uchel iawn yn gyson, rwy'n credu, adroddiadau sydd wedi bod o fudd mawr i bobl Cymru ac i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn gan helpu i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Bu'n archwilydd cyffredinol nad oedd yn ofni dweud ei farn yn glir yn ei adroddiadau, a bydd yn gadael y Swyddfa hon gyda record ragorol, a hynny'n briodol, ar ôl gwasanaethu pobl Cymru fel archwilydd cyffredinol am saith mlynedd. Credaf ei bod hefyd yn bwysig nodi, fodd bynnag, wrth gwrs, fod ganddo hanes hir o wasanaeth mewn bywyd cyhoeddus, gan gynnwys cyfnod yng Nghyngor Sir Ddinbych, lle roedd yn brif weithredwr. Roedd hwnnw'n gyfnod arall yn ei yrfa gyhoeddus pan fu'n gwasanaethu pobl fy etholaeth i'n dda iawn hefyd. Felly, rwy'n dymuno'n dda iawn iddo, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu penodiad Adrian Crompton ac yn edrych ymlaen at ymwneud ag ef yn y dyfodol.
Cadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl—Simon Thomas.
A gaf i ddiolch i'r Aelodau sydd wedi talu teyrnged i Huw Vaughan Thomas am y gwaith pwysig y mae wedi ei wneud i adfer rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru? Mae pwysigrwydd y rôl yn cael ei adlewyrchu yn y ddeddfwriaeth sydd wedi ei phasio gan y Cynulliad, Deddf 2013, sydd yn sefydlu annibyniaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn sicrhau bod y penodiad, er yn benodiad gan Ei Mawrhydi, yn un sy'n mynd drwy brosesau annibynnol y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau'r Cynulliad hwn, ac yn y pen draw yn dod gerbron y Cynulliad cyfan ar gyfer ei gymeradwyo er mwyn enwebu i'w Mawrhydi. Rydw i'n edrych ymlaen fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ac mae'n siŵr bod pob Aelod yn edrych ymlaen, at weld archwilydd cyffredinol newydd gyda chymaint o brofiad, fel sydd wedi cael ei amlinellu gan David Melding. Annibyniaeth barn, rhyddid meddwl a hawl a chryfder i sefyll i fyny pan fo angen yn erbyn y Llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru—dyna beth sydd angen ar archwilydd cyffredinol, ac rydw i'n falch o gael cefnogaeth y Cynulliad, rydw i'n meddwl, i'r penodiad a'r enwebiad sydd wedi cael ei wneud heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.