Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 14 Mawrth 2018.
Diolch i chi, a diolch i Hefin am gyflwyno hyn, ac am eich angerdd; rwy'n ei deimlo'n bendant iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi cyflwyno hyn yma heddiw.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn archwilio rhai o'r problemau gyda chontractau lesddaliadol a ffyrdd nad ydynt wedi cael eu mabwysiadu, felly mae'n rhesymegol ein bod bellach yn symud ymlaen at y problemau a grëwyd gan yr hyn a elwir yn drefniadau 'fleecehold', fel y sonioch chi, taliadau gwasanaeth a'r problemau sy'n dod gyda hwy. Mae'r materion hyn, wrth gwrs, yn gysylltiedig â'r problemau ehangach gyda chamddefnyddio'r farchnad mewn datblygiadau newydd, sydd wedi digwydd yn amlach ers y cwymp ariannol. Rydym yn gweld adroddiadau cynyddol am safonau salach ar adeiladau newydd, a chamau unioni annigonol ar gyfer rhai perchnogion cartrefi. Er enghraifft, mae'n costio £120 i gofnodi cwyn gyda'r cod defnyddwyr ar gyfer adeiladwyr cartrefi, ac mae llawer yn credu bod hwnnw ar ochr yr adeiladwyr.
Mae perchnogion cartrefi a pherchnogion fflatiau yn wynebu taliadau gwasanaeth ystadau sy'n aml yn daliadau mympwyol na ellir eu cyfiawnhau o gwbl, ac maent yn gallu achosi anhawster ariannol mawr. Mae'n system sy'n arbennig o gyffredin a chostus yn y sector fflatiau, fel y soniodd David Rees rwy'n credu. Mae'n syfrdanol gweld y gall cwmni rheoli ystadau gael meddiant ar eiddo os nad yw'r rhent yn cael ei dalu am gyfnod mor fyr o amser. Gyda'r sefyllfa economaidd rydym ynddi, gyda chostau'n cynyddu i bawb, a chyflogau'n aros yn yr unfan, mae pobl angen ac yn disgwyl elfen o hyblygrwydd, ac yn wir, mae cwmnïau cyfleustodau a chwmnïau morgais eraill yn cynnig yr elfen honno'n aml—lle maent yn rhoi'r gwyliau neu'r egwyl hwnnw i chi. Yn 2018, mae pobl yn dibynnu ar hyn i oresgyn anhawster, hyd yn oed yn y tymor byr. Felly, mae'r ffaith y gall rhywun golli eu cartref am fethu talu ffi rheoli ystadau'n warthus, ac mae'n rhaid i bobl gael amddiffyniad rhag colli eu cartref am fethu talu mân daliadau.
Nawr, gwn fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi rhai mesurau da a luniwyd i ddiogelu'r tai hyn a brynwyd o dan Cymorth i Brynu, ond fel y dywedais yr wythnos diwethaf, rhan fach iawn o'r farchnad yn ei chyfanrwydd yw hon. Y darlun ehangach yma yw tegwch sylfaenol y model hwn, pa un a yw'n lesddaliad, yn rhydd-ddaliad neu'n unrhyw beth arall. Mewn egwyddor, credaf ei bod yn anghywir disgwyl i bobl dalu ffioedd ychwanegol, sy'n aml yn uchel, am waith cynnal a chadw ar yr ystâd ehangach, ac yna disgwyl i bobl dalu'r dreth gyngor hefyd. Mae'n faich ariannol ychwanegol na all pobl ei fforddio. Ac ar ryw adeg, credaf y bydd pobl yn gwrthryfela ynglŷn â'r mater hwn, nid y rheini sy'n byw ar ystadau tai newydd yn unig, ond hefyd y degau o filoedd o bobl sy'n talu ffioedd rheoli yn ogystal â'r dreth gyngor mewn fflatiau. Yn syml, nid yw'n iawn i ofyn i bobl dalu ddwywaith.
Nid dyma'r model ar gyfer adeiladu sector tai teg, na'r modd i wella perchentyaeth fforddiadwy, ac mae'n gost arall mewn cymdeithas sydd bellach yn llawn o gostau, mae'n rhoi pwysau ar bobl sy'n gweithio. Credaf fod y cynnig hwn yn un da, ac mae'n bwysig ein bod yn ei drafod, ond mae'n rhaid i mi ddweud eto, fel y gwneuthum yr wythnos diwethaf yn ystod y cwestiynau amserol ar ddiwygio lesddeiliadaeth, y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'i phwerau ymhellach, y tu hwnt i gyfyngiadau'n ymwneud â Cymorth i Brynu. Rwy'n deall bod ganddynt gytundebau i beidio ag adeiladu lesddaliadau o dan rai amgylchiadau, er enghraifft gan adeiladwyr cartrefi penodol, ond a fydd y trefniadau hynny'n para am byth a sut y maent yn berthnasol yma?
Felly, rydym yn cefnogi'r cynnig hwn ar gyfer Bil, ond credaf y dylem edrych ar yr arferion diegwyddor ehangach rydym yn dod yn ymwybodol ohonynt yn ogystal â chryfhau amddiffyniad i ddefnyddwyr yn gyffredinol yn y sector hwn. Diolch.