9. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:52, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar addysg a dysgu proffesiynol athrawon.

Rwy'n credu mai ansawdd yr addysgu yn ein hysgolion yw elfen bwysicaf addysg ein plant. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Estyn wedi sicrhau nad oes gan unrhyw un unrhyw amheuon ynglŷn â pha mor bwysig yw addysgu o ansawdd da ar gyfer darparu system addysg o ansawdd da. Mae gweithlu hyfforddedig a brwdfrydig iawn hefyd yn hanfodol i gefnogi'r broses o gyflwyno a chyflawni cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer cwricwlwm ysgol newydd. Dyna pam roedd y pwyllgor yn teimlo bod angen cynnal ymchwiliad i'r modd y mae ein hathrawon yn cael eu hyfforddi i ddechrau ac yna'n cael eu cefnogi drwy gydol eu gyrfa. Rydym yn cydnabod y byddant angen ymateb i newidiadau systemig ac arferion gorau sy'n dod i'r amlwg. Yn rhan o hyn hefyd, archwiliodd y pwyllgor y safonau proffesiynol newydd sy'n sail i'r system hyfforddi athrawon newydd, ac y bwriedir iddynt ddarparu'r uchelgais i gyflawni ymysg athrawon.

Derbyniodd y pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig a llafar amrywiol. Roeddwn yn falch iawn o weld 837 o gyflwyniadau mewn ymateb i'n harolwg allgymorth ar-lein, a gynhaliwyd ar y cyd â'n cydweithwyr yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a oedd wedi'i anelu at addysgwyr. Mae'r hyn a welsom wedi codi pryderon mewn nifer o feysydd pwysig. Clywsom fod y nifer sy'n cael eu recriwtio ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon wedi gostwng yn is na'r targed bob blwyddyn yn y pedair blynedd diwethaf. Mae'r prinder i'w weld yn arbennig o amlwg mewn meysydd allweddol megis gwyddoniaeth a mathemateg, ac mewn perthynas ag athrawon o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a'r rhai sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n amlwg fod angen trefniadau recriwtio wedi'u targedu a bod angen dealltwriaeth ehangach o'r buddion o fod yn athro yng nghymdeithas heddiw. Mae cynlluniau yn Lloegr i gyflwyno addysgu i israddedigion yn ystod eu cwrs gradd wedi gwneud argraff arnom, ac edrychwn ymlaen at gyflwyno prosiectau tebyg yma yng Nghymru.

Roedd nifer yr athrawon a oedd i'w gweld yn gadael y proffesiwn o fewn ychydig flynyddoedd ar ôl cymhwyso yn destun pryder pellach. Rydym wedi clywed mai'r rheswm am hyn o bosibl yw'r pwysau y mae system atebolrwydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar athrawon, neu oherwydd bod llwythi gwaith trwm yn arwain at gydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn sylweddoli bod hwn yn fater cymhleth gyda nifer o ffactorau ynghlwm wrtho. O ganlyniad, rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r meysydd hyn ymhellach ac i sicrhau bod y camau y mae'n eu cymryd yn ddigonol.

Arweiniodd tystiolaeth arall at ein casgliad nad yw'r gweithlu addysg wedi'i baratoi'n ddigonol i weithredu'r cwricwlwm newydd ar hyn o bryd. Ymddengys mai'r rheswm am y diffyg parodrwydd hwn yw'r cyfuniad o ddiffyg hyfforddiant a'r amser cyfyngedig ar gyfer paratoi. Roeddem yn argymell y dylai dysgu gan ysgolion sydd eisoes yn rhan o ddiwygio'r cwricwlwm gael ei rannu'n ehangach, ac y dylid defnyddio rhaglenni datblygiad proffesiynol cyfredol yn fwy effeithiol er mwyn paratoi ein hathrawon.

Yn fwy cyffredinol, daethom i'r casgliad fod y rhaglenni datblygiad proffesiynol sydd ar gael i athrawon yng Nghymru yn anghyson o ran ansawdd ac argaeledd. Ceir gormod o athrawon nad ydynt yn manteisio ar yr hyfforddiant a'r rhaglenni datblygiad proffesiynol y maent eu hangen, yn eu haeddu, ac y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn yn peri pryder arbennig o ystyried maint a phwysigrwydd y newidiadau sy'n digwydd yng Nghymru. Mae gweithlu nad yw'n barod yn peryglu'r dyheadau ar gyfer system addysg o'r radd flaenaf yma yng Nghymru.

Roeddem yn siomedig i glywed mai'r rheswm am hyn yn aml oedd oherwydd nad oedd eu llwyth gwaith yn caniatáu iddynt ymgymryd â hyfforddiant a oedd ar gael, neu oherwydd bod yr hyfforddiant yn ormod o faich ar gyllideb yr ysgol. Mae'n rhaid gwneud mwy i helpu athrawon i gael mynediad at yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Mae ansawdd datblygiad proffesiynol yng Nghymru yn cael ei gwestiynu hefyd. Clywsom ddadleuon dros gael system o ddysgu proffesiynol achrededig ar gyfer athrawon. Roeddem yn cytuno, ac rydym wedi argymell hyn i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y bydd Estyn yn edrych ar rai o'r materion hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at weld canfyddiadau'r arolygiaeth.

Nid yw'r datblygiad proffesiynol sy'n digwydd i'w weld yn gyson ar draws Cymru, gyda gwahanol gyrsiau ar gael mewn gwahanol ranbarthau. Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ddarparu model cyflawni mwy cenedlaethol. Rydym yn credu bod yn rhaid i hyn ddigwydd er mwyn sicrhau bod yr holl athrawon yr un mor barod am yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'u blaenau.

Rydym hefyd yn credu'n gryf y dylai athrawon cyflenwi gael mynediad llawn at raglenni dysgu proffesiynol fel rhan o ffordd genedlaethol newydd o weithio. Mae athrawon cyflenwi yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i'n hysgolion, ac rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw eu hawl i gyfleoedd datblygu yn cael ei diystyru.

Yn olaf, mae'r pwyllgor yn awyddus i weld lefelau uwch o waith ymchwil ar themâu addysg yng Nghymru. Mae cymaint o ddiwygiadau addysg ar y gweill sy'n benodol i Gymru, yn cynnwys cyflwyno fframweithiau trawsddisgyblaethol, hyrwyddo dwyieithrwydd, creu cwricwlwm newydd o'r gwaelod i fyny, a mwy. Byddai'r diwygiadau a'r prosesau hyn yn elwa o lefelau uwch o graffu a dadansoddi academaidd. Bydd goruchwyliaeth academaidd yn ein helpu i sefydlu cyfeiriad ar gyfer y dyfodol a dysgu gwersi o'r gorffennol. Nid yn unig hynny, ond credwn y byddai rhannau eraill o'r byd yn elwa o gael cipolwg gwell ar y gwaith y mae'r rhai ar draws y sector addysg yn ei wneud yng Nghymru.

Yn ystod yr ymchwiliad, roeddem yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau mewn nifer o feysydd a oedd yn peri pryder i ni, yn enwedig mewn perthynas â recriwtio athrawon a llwyth gwaith. Rydym hefyd yn deall y bydd oedi cyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn helpu mwy o athrawon i baratoi. Rydym hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gosod systemau ar waith ar gyfer newidiadau yn y dyfodol mewn llawer o'r meysydd hyn sy'n peri pryder.

Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Rydym yn gobeithio bod ein hargymhellion a'n casgliadau yn helpu i ddangos y ffordd i sicrhau'r amgylchedd gorau posibl ar gyfer ein hathrawon ac o ganlyniad, ein dysgwyr yng Nghymru. Gyda hyn mewn golwg, roeddem yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, bob un ond dau o'r 25 argymhelliad a wnaethom. Fel pwyllgor, byddwn yn cadw llygad barcud er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r ymrwymiadau hyn. Diolch.