Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 14 Mawrth 2018.
A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am agor y ddadl ac am roi crynodeb da o bob un o'r themâu sy'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn ar bwnc mor bwysig? Mae'r Cadeirydd yn llygad ei le: mae llwyddiant ein system addysg yn dibynnu ar ansawdd yr athrawon sydd ynddi, a gwn fod hyn yn rhywbeth y mae pawb ohonom, ar draws y Siambr hon, yn teimlo'n angerddol yn ei gylch.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod ychydig yn siomedig pan ddarllenais fod cynifer o'n hargymhellion ond wedi'u derbyn mewn egwyddor, yn hytrach na'u derbyn yn llawn. Credaf fod rhywfaint o amwysedd ynghylch llawer o'r ymatebion a roddwyd, sydd i'w gweld yn osgoi'r argymhellion a wnaed gennym mewn llawer o ffyrdd, er ei fod yn dweud 'derbyn mewn egwyddor'.
Ond mae hwn yn fater pwysig. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r broses o sicrhau bod gennym athrawon o ansawdd da, ac mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd, wrth gwrs, ein bod yn dod ag athrawon newydd i mewn i'r proffesiwn sy'n barod i gyflawni'r rhaglen uchelgeisiol sydd gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid ein system addysg yma yng Nghymru.
Y bore yma, gwelsom adroddiadau yn y cyfryngau ynglŷn â'r argyfwng ariannu parhaus yn ein hysgolion. Rydym yn gwybod bod Cymru'n cael £1.20 am bob £1 a werir ar ysgolion yn Lloegr. I mi, mae'n ymddangos yn anghredadwy fod gennym y bwlch sylweddol hwn yn y gwariant—tua £700 y dysgwr bob blwyddyn, yn ôl yr undebau. Mae'n fwlch enfawr yn y gwariant, ac wrth gwrs, rwy'n credu mai dyna'n rhannol sy'n arwain at ddigalondid y gweithlu addysgu. Felly, nid yw'n syndod i mi, pan edrychwn ar y ffigurau diweddaraf, nad yw Cymru'n recriwtio agos digon o bobl i leoedd hyfforddi athrawon, ac rwy'n credu mai'r bwlch yn y gwariant yw un o'r rhesymau dros hynny.
Rydym hefyd yn gwybod nad yw'n ymwneud yn unig â recriwtio pobl newydd sy'n meddu ar y sgiliau cywir, ond wrth gwrs mae'n rhaid i ni hyfforddi'r bobl sydd eisoes yn y gweithlu, a rhoi cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus iddynt, a chadw'r athrawon da iawn sy'n ystyried gadael. Cawsom ein brawychu yn ystod yr ymchwiliad wrth weld canlyniadau'r arolwg gweithlu addysg cenedlaethol, sy'n awgrymu bod traean yr athrawon yn ystyried gadael y proffesiwn yn y tair blynedd nesaf. Felly, os oes gennych brinder athrawon newydd yn dod i mewn i'r proffesiwn, ynghyd â thraean yr athrawon yn ystyried gadael y proffesiwn, gallwch weld sut y mae argyfwng yn dechrau dod i'r amlwg—