Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 20 Mawrth 2018.
Rwy'n credu, o'r holl wledydd Celtaidd, bod gennym ni lawer o ddal i fyny i'w wneud pan ddaw i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i ymgysylltu â'n cymunedau alltud. Ceir un neu ddau o bwyntiau yr hoffwn eu codi gyda'r Prif Weinidog—un yr wyf i wedi ei godi o'r blaen, sef penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â pharhau i fesur enw da Cymru yn fyd-eang. Tybed a allai'r Prif Weinidog gyflwyno'n ysgrifenedig y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i beidio â mesur enw da Cymru yn fyd-eang, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n ddangosydd defnyddiol, yn enwedig pan ein bod ni'n ceisio ymgysylltu â'r gymuned alltud ac, yn fwy cyffredinol, enw da Cymru fel gwlad fasnachu. Ac, yn ail, a wnaiff ef ofyn i'w swyddogion ystyried y posibilrwydd o gael cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno ardystiad swyddogol Llywodraeth Cymru o dreftadaeth Gymreig i bobl fel y gall pobl o bedwar ban byd, yn gyfnewid am ffi sylweddol, a hefyd, wrth gwrs, y gallu i ddangos eu bod nhw o linach Gymreig, gael ardystiad swyddogol o dreftadaeth Gymreig gan y Llywodraeth y byddant yn ei drysori, a fydd yn codi arian i Lywodraeth Cymru y gellid ei roi tuag at ymdrechion a phrosiectau gwych fel Cymru o Blaid Affrica, neu roi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc o Gymru fynd i astudio a theithio dramor.