1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2018.
1. Yn dilyn ei daith ddiweddar i UDA, pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i annog y Cymry ar wasgar i ymgysylltu ymhellach? OAQ51929
Mae cymunedau alltud yn chwarae rhan bwysig mewn hyrwyddo Cymru dramor. Wrth deithio dramor, rwy'n cyfarfod pobl â threftadaeth Gymreig yn rheolaidd, sy'n cyfrannu'n fawr, wrth gwrs, at eu gwledydd mabwysiedig. Gallaf ddweud wrth yr Aelod, pan oeddwn i yn yr Unol Daleithiau, cefais gyfarfod gydag arweinwyr technoleg a drefnwyd gan rywun yr oeddwn i yn yr ysgol gydag ef—roedd yn berthynas mor agos â hynny—a hefyd â llawer o bobl eraill sy'n gweithio yn ninasoedd yr Unol Daleithiau ac yng Nghanada sy'n awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid ac, wrth gwrs, fel lle i fuddsoddi ynddo.
Diolch. Roeddwn i'n falch o glywed eich bod chi wedi cyfarfod ag arweinwyr technoleg yn Efrog Newydd, gan gynnwys alltudion o Gymru yn eu plith sy'n arwain cwmnïau technoleg rhyngwladol blaenllaw erbyn hyn. Dangoswyd bod manteisio ar arbenigedd a brwdfrydedd cymunedau alltud yn ddull datblygu economaidd pwysig. Roeddwn i'n falch o glywed y cyhoeddiad ddoe eich bod chi wedi comisiynu adolygiad o arloesedd digidol o dan arweiniad gweithwyr academaidd, ond nad oes disgwyl iddo adrodd am flwyddyn, ac mae hynny'n amser maith o ystyried cyflymder datblygiad deallusrwydd artiffisial. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud yn y cyfamser i wneud yn siŵr ein bod ni'n cymryd camau ymarferol i roi Cymru ar flaen y gad, a sut y gwnaiff Llywodraeth Cymru ymgysylltu â grwpiau alltud i'n helpu ni i ymdrin â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n deillio o ddatblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial?
Mae'n iawn i ddweud bod y byd digidol yn symud yn gyflym iawn, iawn—gallwn weld hynny—ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r adolygiad ystyried yr holl faterion y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. Bydd yn cael ei arwain gan yr Athro Phil Brown, sef yr athro ymchwil nodedig yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Rydym ni eisiau datblygu, wrth gwrs, swyddi o ansawdd da sydd ar gael i bawb a gwneud yn siŵr bod gennym ni'r sgiliau sydd eu hangen arnom, nid yn unig ar gyfer heddiw ond ar gyfer y dyfodol.
Mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n cymunedau alltud, y mae gan lawer ohonynt—cyfarfûm â nhw pan oeddwn i yn yr Unol Daleithiau—gysylltiadau â'r mannau sydd ar flaen y gad o ran digidoleiddio fel Dyffryn Silicon i wneud yn siŵr ein bod ni'n ymwybodol o'r hyn sy'n dod yn y dyfodol a pha fath o sgiliau fydd eu hangen ar ein pobl. Bydd angen i'r adolygiad wneud hynny yn rhan o'r cynllun yr ydym ni'n ei ddatblygu i wneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau hynny.
Prif Weinidog, cymerodd myfyrwyr ran mewn cynhadledd twristiaeth a lletygarwch Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yma yn y Senedd ddoe, a noddwyd gan fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, ac un o'r siaradwyr ardderchog yno oedd Samantha Birdsell, a oedd wedi gadael Cymru ar ôl bod yn y brifysgol, ac a fu'n gweithio am 20 mlynedd ym maes twristiaeth a lletygarwch, gan gynnwys 11 mlynedd yn yr Unol Daleithiau, ac mae hi yn ôl yn y DU bellach yn gweithio i westai Marriott. Mae'n un o'r enghreifftiau o rywun sydd wedi llwyddo a chyflawni, sydd wedi bod i ffwrdd ac wedi dod yn ôl, ac mae hi'n gweithio yn un o'n sectorau allweddol ar gyfer datblygu economaidd. Sut gallwn ni fynd ati'n ymarferol i ddenu pobl lwyddiannus eraill o Gymru i ddod yn ôl, a beth allwch chi fel Llywodraeth Cymru ei gynnig iddyn nhw i wneud hynny?
Wel, rydym ni wedi, ar y cyd â'r sector preifat, rhan-ariannu astudiaeth o ddichonoldeb alltudion sy'n cynnwys tri maes allweddol o bwyslais: yn gyntaf, ymchwilio i sut y mae gwledydd eraill yn ymgysylltu â'u cymunedau alltud; yn ail, nodi ac ymgysylltu 50 o gymunedau alltud mwyaf dylanwadol Cymru i ganfod eu gallu a'u tuedd i gyfrannu at lunio menter cymunedau Cymry alltud; ac yna, wrth gwrs, canfod y manteision posibl i Gymru o sefydlu ei sefydliad cymunedau alltud ei hun. Sefydlwyd GlobalWelsh, sy'n bartneriaeth sector preifat, i sefydlu cwmni cymunedau alltud i Gymru er mwyn cefnogi swyddi a thwf. Mae ar gam cynnar o'i ddatblygiad ac, wrth gwrs, ei nod yw denu rhagor o fuddsoddiad sector preifat. Nawr, trwy symud ymlaen yn y modd hwnnw, gallwn geisio darganfod lle mae pobl, yn gyntaf oll, ac yna gwneud yn siŵr y gellir defnyddio eu sgiliau ar ran Cymru yn y dyfodol, pa un a ydyn nhw'n aros yn y gwledydd lle maen nhw'n byw ar hyn o bryd neu'n dod â'r sgiliau yn ôl i Gymru.
Rwy'n credu, o'r holl wledydd Celtaidd, bod gennym ni lawer o ddal i fyny i'w wneud pan ddaw i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i ymgysylltu â'n cymunedau alltud. Ceir un neu ddau o bwyntiau yr hoffwn eu codi gyda'r Prif Weinidog—un yr wyf i wedi ei godi o'r blaen, sef penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â pharhau i fesur enw da Cymru yn fyd-eang. Tybed a allai'r Prif Weinidog gyflwyno'n ysgrifenedig y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i beidio â mesur enw da Cymru yn fyd-eang, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n ddangosydd defnyddiol, yn enwedig pan ein bod ni'n ceisio ymgysylltu â'r gymuned alltud ac, yn fwy cyffredinol, enw da Cymru fel gwlad fasnachu. Ac, yn ail, a wnaiff ef ofyn i'w swyddogion ystyried y posibilrwydd o gael cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno ardystiad swyddogol Llywodraeth Cymru o dreftadaeth Gymreig i bobl fel y gall pobl o bedwar ban byd, yn gyfnewid am ffi sylweddol, a hefyd, wrth gwrs, y gallu i ddangos eu bod nhw o linach Gymreig, gael ardystiad swyddogol o dreftadaeth Gymreig gan y Llywodraeth y byddant yn ei drysori, a fydd yn codi arian i Lywodraeth Cymru y gellid ei roi tuag at ymdrechion a phrosiectau gwych fel Cymru o Blaid Affrica, neu roi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc o Gymru fynd i astudio a theithio dramor.
Mae'r Aelod wedi bod yn llawn syniadau gwreiddiol erioed, ac mae hwnna'n un ohonynt. Mae'n syniad, rwy'n credu, sy'n haeddu ystyriaeth bellach. Yr hyn na fyddwn i eisiau ei wneud, wrth gwrs, yw awgrymu i bobl os ydyn nhw eisiau hawlio treftadaeth Gymreig, bod yn rhaid iddyn nhw dalu amdani. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n gweithio gyda'r gymuned alltud sydd gennym ni.
Dim ond i roi enghraifft i chi o ba mor bell yr ydym ni wedi dod, prin iawn oedd y swyddfeydd a oedd gennym ni dramor yn ôl yn 2011. Rydym ni wedi agor llawer mwy ers hynny. Nid oedd gennym ni unrhyw gysylltiad gwirioneddol â'r gymuned alltud yn yr Unol Daleithiau, nid oedd gennym ni unrhyw gysylltiad â Washington; rydym ni bellach yn cynnal digwyddiad ar Capitol Hill bob un flwyddyn. Mae hwnnw'n ddigwyddiad a fynychir gan lawer o wleidyddion ar Capitol Hill. Rydym ni bob amser yn cynnal digwyddiadau yn Efrog Newydd; ceir cymdeithas Cymry newydd yn Efrog Newydd sy'n cynnwys entrepreneuriaid ifanc o dreftadaeth Gymreig—llawer ohonynt o Gymru yn wreiddiol, beth bynnag—sydd eisiau ein helpu ni, ac, wrth gwrs, rydym ni newydd agor swyddfa newydd ym Montreal. Mae Montreal yn gartref i rai cwmnïau mawr sy'n cyflogi pobl yng Nghymru, ac rydym ni'n gwybod bod gennym ni gymuned alltud ym Montreal hefyd.
Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud ers 2011 yw ceisio agor swyddfeydd newydd mewn rhannau o'r byd lle'r ydym ni'n gwybod bod treftadaeth Gymreig yn gryf er mwyn defnyddio'r gymuned alltud sy'n bodoli yno, a gweithio gyda nhw i hyrwyddo Cymru yn eu gwledydd cartref ac, wrth gwrs, gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu creu cyfleoedd i fusnesau o Gymru wrth iddyn nhw geisio masnachu â'r Unol Daleithiau a Chanada.