Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 20 Mawrth 2018.
Gadewch i ni weld faint o bleidleisiau y mae arweinydd UKIP wedi llwyddo i'w colli—pleidleisiau athrawon, pleidleisiau rhieni, pleidleisiau llywodraethwyr, pleidleisiau neiniau a theidiau, y cwbl oherwydd ei fod wedi dewis, am resymau sydd y tu hwnt i mi, beirniadu aeddfedrwydd plant naw ac 11 mlwydd oed. Rydym ni wedi treulio ein hamser yn y Siambr hon, ym mhob plaid a bod yn deg, yn sôn am roi llais i blant. Nawr, mae e'n dweud—a, David Melding, fe'i clywais e'n ei ddweud, a chredaf fod y sylw yn briodol—y dylai plant gael eu gweld ac nid eu clywed, a dyna'n union y mae arweinydd UKIP yn ei ddweud. Efallai yr hoffai fyfyrio ar y ffaith, wrth lwyddo i godi gwrychyn miloedd lawer o bobl ledled Cymru, bod plant, mewn gwirionedd, yn haeddu llais.