Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:28, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Nid yw'n bychanu safbwyntiau plant o gwbl, ond mae lefel yr aeddfedrwydd a ddangosir yn y sylwadau hynny yn adlewyrchu eu hoedran wrth gwrs. Efallai fod y Prif Weinidog hyd yn oed yr un mor anaeddfed yn yr oedran hwnnw; wn i ddim. Ond nid yw plant saith i 11, wrth gwrs, yn aeddfed eto, ac mae eu safbwyntiau yn adlewyrchu hynny—er  ein bod ni i gyd yn aeddfedu ac yna mae'n werth gwrando ar ein safbwyntiau, fel sylwadau o ddifrif mewn dadl wleidyddol, mae'n gwbl ryfeddol i mi fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd o ddifrif nawr. Rydym ni'n gwybod bod athrawon—[Torri ar draws.] Rydym ni'n gwybod bod addysg wleidyddol mewn ysgolion yn bwysig, ond mae hefyd yn bwysig y dylai fod cydbwysedd, ac y dylai plant gael eu haddysgu i fod yn feirniadol. O gofio bod y Times Educational Supplement, yn 2016, wedi cynnal arolwg barn ymhlith athrawon a oedd yn dangos bod 88 y cant ohonynt o blaid aros yn yr UE—75 y cant o athrawon; mae 88 y cant o ddarlithwyr Prifysgol o blaid aros yn yr UE—onid oes perygl, hyd yn oed yn isymwybodol, os bydd pynciau gwleidyddol o natur ddadleuol yn cael eu haddysgu yn yr ystafell ddosbarth bod y cydbwysedd hwnnw'n debygol o gael ei golli?