Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 20 Mawrth 2018.
Prif Weinidog, mae nifer fawr o apwyntiadau cleifion allanol ar gyfer profion diagnostig, lle y gwelwn restrau aros enfawr. Ym mis Rhagfyr, gwelsom dros 20,000 o gleifion yn aros mwy nag wyth wythnos, a dros 1,000 o gleifion yn aros mwy na 24 wythnos. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi bod hyn yn annerbyniol ac y bydd yn gwaethygu oherwydd galw cynyddol yn y blynyddoedd i ddod. Prif Weinidog, sut mae eich Llywodraeth yn bwriadu cynyddu capasiti diagnosteg i sicrhau nad oes neb yn aros mwy nag wyth wythnos?