Amseroedd Aros Ysbytai

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:43, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Mae wedi digwydd eisoes, gan fod nifer y bobl a oedd yn aros dros wyth wythnos am un o'r profion diagnostig ddiwedd mis Rhagfyr 38 y cant yn is nag ar yr un adeg y llynedd. Rydym ni wedi buddsoddi'n helaeth mewn profion diagnostig er mwyn lleihau amseroedd aros, ac mae'r ffigurau yn dechrau dangos hynny. Ydy, wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud y ceir, fel erioed, galw cynyddol o un flwyddyn i'r llall yn y GIG, ond nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, ei bod hi'n anochel y bydd amseroedd yn parhau i godi, fel y mae'r ffigurau yn dangos.