Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 20 Mawrth 2018.
Mae cymunedau alltud yn chwarae rhan bwysig mewn hyrwyddo Cymru dramor. Wrth deithio dramor, rwy'n cyfarfod pobl â threftadaeth Gymreig yn rheolaidd, sy'n cyfrannu'n fawr, wrth gwrs, at eu gwledydd mabwysiedig. Gallaf ddweud wrth yr Aelod, pan oeddwn i yn yr Unol Daleithiau, cefais gyfarfod gydag arweinwyr technoleg a drefnwyd gan rywun yr oeddwn i yn yr ysgol gydag ef—roedd yn berthynas mor agos â hynny—a hefyd â llawer o bobl eraill sy'n gweithio yn ninasoedd yr Unol Daleithiau ac yng Nghanada sy'n awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid ac, wrth gwrs, fel lle i fuddsoddi ynddo.