Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 20 Mawrth 2018.
Prif Weinidog, gyda'r pwerau codi trethi newydd ddim ond dyddiau i ffwrdd, a'r pwerau ychwanegol y mae'r lle hwn ar fin eu cael ar ôl Brexit, onid yw'n amser cyflwyno diwygiadau lobïo i sicrhau bod ein democratiaeth mor agored a thryloyw â phosibl. A ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i'r Cynulliad hwn gymryd camau ar ddiwygiadau lobïo nawr er mwyn helpu i gryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd ynom ni a sut yr ydym ni'n gweithredu?