1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2018.
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o Ddeddf Lobïo (Yr Alban) 2016, a sut y gellir rhoi trefniadau tebyg ar waith yng Nghymru? OAQ51955
Wel, rwy'n cytuno â chasgliadau adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar lobïo a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni.
Mae Deddf Lobïo (yr Alban) 2016 mewn grym erbyn hyn, fel y bydd yn rhaid i lobïwyr yn y wlad honno gael eu cofrestru'n gyfreithiol. Mae'r un peth yn wir yn Iwerddon, a cheir cofrestr yn Llundain, ond mae gan Gymru y ddeddfwriaeth lobïo wannaf yn yr ynysoedd hyn oherwydd bod eich Llywodraeth chi wedi dewis gwneud dim. Mae gennym ni lobïwyr erbyn hyn yn cydgysylltu cwynion yn erbyn Aelodau Cynulliad i niweidio enw da pobl. Mae cyfryngau yn Llundain wedi honni bod lobïwyr yng Nghaerdydd yn rhan o'r cwynion a arweiniodd at ddiswyddo Carl Sargeant. Mae arweinydd yr wrthblaid wedi honni bod lobïwyr wedi datgelu diswyddiad Carl Sargeant cyn ei fod ef yn gwybod amdano hyd yn oed. Ofcom hyd yn oed—bu'n rhaid i reoleiddiwr cystadleuaeth derfynu contract gyda Deryn, cwmni lobïo yng Nghymru, ar ôl iddo gyfaddef ei fod wedi torri'r rheolau. Mae'r cyhoedd bellach yn gofyn i'w hunain beth ar y ddaear—beth ar y ddaear—sy'n mynd ymlaen yn y lle hwn. Oherwydd, o'r tu allan, mae'n edrych fel llanastr. A wnewch chi dderbyn nawr bod problem gyda lobïwyr yn y fan yma a symud yn gyflym i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn eu cofrestru'n gyfreithiol, fel ein bod ni i gyd yn gwybod pwy ydyn nhw a'n bod ni i gyd yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud?
Wel, nid oes gan ddim o'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud unrhyw sail mewn gwirionedd o gwbl, ond mater iddo fe yw siarad am beth bynnag y mae'n dymuno yn y Siambr hon. Ni fyddwn yn ei gynghori i wneud hynny y tu allan i'r Siambr hon, ar unrhyw gyfrif. Ond, nid yw'n fater i Lywodraeth gyflwyno deddfwriaeth. Mae'n fater i'r Cynulliad ei hun. Gadewch i ni atgoffa ein hunain y cynhaliodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ymchwiliad i ystyried pa un a oedd y trefniadau ar gyfer tryloywder ynghylch lobïo yn addas i'r diben ac yn briodol i'r Cynulliad. Adroddodd yn ôl gyda phum argymhelliad, nad oeddent yn cynnwys sefydlu cofrestr lobïo ar hyn o bryd. Mae hwnnw'n fater i'r Pwyllgor ei hun. Nid yw'n briodol i'r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth fel hyn. Mae'n fater i'r Cynulliad, yn gorfforaethol, ei ystyried, fel y mae wedi ei wneud drwy'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Brif Weinidog, rŷch chi wedi cyfeirio at ymchwiliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Dywedodd y pwyllgor yn glir ei fod—ac rwy'n dyfynnu fan hyn—
'yn credu yn gryf y dylid trin Aelodau’r Cynulliad yn gydradd â Gweinidogion y Llywodraeth. Mae’r Pwyllgor felly yn argymell y dylai unrhyw newidiadau yn y dyfodol...ar gyfer Aelodau’r Cynulliad hefyd gynnwys y Llywodraeth a chod y Gweinidogion, ac ystyrir hyn fel rhan o waith y Pwyllgor yn y dyfodol.'
Felly, a ydych chi'n cytuno â barn y pwyllgor mewn perthynas â'r cod gweinidogol—hynny yw, y dylai unrhyw newidiadau yn y dyfodol i Aelodau'r Cynulliad hefyd fod yn berthnasol i aelodau'r Llywodraeth? Ac, os felly, sut byddwch chi fel Llywodraeth yn mynd ati i sicrhau bod hynny yn digwydd?
Wel, dau beth. Yn gyntaf, wrth gwrs, ni fyddai'r pwyllgor ei hun yn gallu newid y cod gweinidogol, ond os oes yna unrhyw newidiadau ynglŷn â sefyllfa Aelodau, wrth gwrs, byddai'n rhaid imi ystyried ym mha ffordd y dylai'r cod gweinidogol newid hefyd.
Prif Weinidog, gyda'r pwerau codi trethi newydd ddim ond dyddiau i ffwrdd, a'r pwerau ychwanegol y mae'r lle hwn ar fin eu cael ar ôl Brexit, onid yw'n amser cyflwyno diwygiadau lobïo i sicrhau bod ein democratiaeth mor agored a thryloyw â phosibl. A ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i'r Cynulliad hwn gymryd camau ar ddiwygiadau lobïo nawr er mwyn helpu i gryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd ynom ni a sut yr ydym ni'n gweithredu?
Wel, byddwn i'n dadlau bod y Cynulliad eisoes wedi gwneud hynny. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi gwneud hynny, ac mae hefyd wedi dweud, wrth gwrs, y bydd yn cadw golwg ar weithrediad model yr Alban ac yn adolygu'r sefyllfa yn 2020, gyda'r bwriad o gyflwyno cynnig cadarn ar gyfer y chweched Cynulliad. Rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig, pan ddaw i'r ffordd y mae'r Aelodau yn ymddwyn, bod hwnnw'n fater i'r Cynulliad cyfan ac nid i'r Llywodraeth yn unig.