Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 20 Mawrth 2018.
Mae angen i'ch Llywodraeth chi, wrth gwrs, fod yn fwy rhagweithiol yn y mater yma. Rŷch chi'n iawn fod yr union bwynt o dan sylw ddim wedi'i ddatganoli, ond mae e yn, fel yr ŷch chi'n cydnabod, yn cael effaith sylweddol iawn ar agweddau helaeth o'r sector sydd wedi'u datganoli. Felly, a gaf ofyn i chi, wrth fod yn fwy rhagweithiol, a wnewch chi gynnull cyfarfod o is-gangellorion Cymru er mwyn dweud wrthyn nhw yn union beth yw barn eich Llywodraeth chi am yr hyn sydd wedi digwydd? A fyddech chi'n cytuno â Phlaid Cymru bod y modd y mae prifysgolion wedi trin ein darlithwyr ni yn gwbl warthus ac yn gwbl annerbyniol?