Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 20 Mawrth 2018.
Wel, beth a ddywedais i'n gynharach yw beth yn gwmws mae'r undeb wedi dweud wrthym ni, sef eu bod nhw'n moyn i ni eu cefnogi nhw er mwyn cael ystyriaeth unwaith eto o beth yw gwerth y cynllun pensiwn ar hyn o bryd, ac, yn ail, i ni i helpu i ddod â phobl at ei gilydd er mwyn gweld a oes ffordd ymlaen ynglŷn â hwn. Beth sydd yn ffaelu digwydd yn y pen draw—. Byddai'n beth gwael i ni yng Nghymru petai'r streic yn parhau, felly mae'n hollbwysig i sicrhau ein bod ni'n dod i gasgliad, bod y sefydliadau yn dod i gasgliad gyda'r undebau, dod i setliad gyda'r undebau, sydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cario ymlaen gyda'u hastudiaethau.