Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 20 Mawrth 2018.
Arweinydd y tŷ, heb ystyried y trafodaethau a gafwyd yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch yr ymgynghoriad y bydd y Llywodraeth yn ei gynnal gyda phlant 7 ac 11 mlwydd oed ynglŷn â'u barn ar Brexit, byddwn yn ddiolchgar iawn i gael gwybod sut, os cawn ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol, y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ac yn rhyngweithio â phobl ifanc. Rwy'n gwerthfawrogi mai hwn yw mater y dydd i lawer o bobl, ond mae hefyd yn fater gwleidyddol iawn. Efallai fy mod i'n anghywir ond nid wyf yn credu bod ymarfer o'r fath ar fater mor wleidyddol wedi'i gynnal gan Lywodraeth Cymru ymysg y garfan o'r fath o blant yn ein hysgolion o'r blaen.
Mae'n bwysig bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, ond mae'n bwysig hefyd i ddeall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cychwyn yr ymgynghoriad a sut y bydd yn gweithio gydag ysgolion i wneud yn siŵr nad oes—ac nid wyf yn awgrymu am funud y gallai hyn ddigwydd—gynnydd graddol mewn gwleidyddoli yn ystod y broses. Heb unrhyw ddatganiad o du'r Gweinidog—a gallaf glywed grwgnach yn dod o'r meinciau, ond mae'n bwynt dilys i'w wneud, oherwydd os yw'r ymgynghoriad hwn yn mynd rhagddo, fel y mae'r Llywodraeth wedi nodi, ar wahân i'r sylwadau i'r wasg, ni chafwyd unrhyw ddatganiad nac arwydd gan y Gweinidog ynglŷn â faint o amser yn union y byddai'r ymgynghoriad yn ei gymryd, y math o ryngweithio â phobl ifanc fyddai'n digwydd neu ba fath o fforymau yr ymgysylltir â nhw. Credaf fod hynny'n wybodaeth eithaf perthnasol a ddylai fod ar gael i Aelodau, pe byddai rhieni'n codi pryderon ynghylch yr ymgynghoriad hwn, neu yn wir pe byddent eisiau rhyngweithio â'r ymgynghoriad. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael datganiad gan y Gweinidog perthnasol yn nodi sut yn union y bydd yn cynnal yr ymgynghoriad hwn, ac yn benodol, pa fesurau diogelu fydd ar waith.