– Senedd Cymru am 2:54 pm ar 20 Mawrth 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae ychydig o newidiadau i'w gwneud i fusnes yr wythnos hon. Mae datganiadau ar lywodraeth leol ac ar ymgynghori ar Fil deddfwriaeth (Cymru) drafft wedi'u hychwanegu at yr agenda heddiw. Yn ogystal â hynny, mae'r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu gohirio'r ddadl a arweinir gan UKIP tan ar ôl toriad y Pasg. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, heb ystyried y trafodaethau a gafwyd yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch yr ymgynghoriad y bydd y Llywodraeth yn ei gynnal gyda phlant 7 ac 11 mlwydd oed ynglŷn â'u barn ar Brexit, byddwn yn ddiolchgar iawn i gael gwybod sut, os cawn ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol, y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ac yn rhyngweithio â phobl ifanc. Rwy'n gwerthfawrogi mai hwn yw mater y dydd i lawer o bobl, ond mae hefyd yn fater gwleidyddol iawn. Efallai fy mod i'n anghywir ond nid wyf yn credu bod ymarfer o'r fath ar fater mor wleidyddol wedi'i gynnal gan Lywodraeth Cymru ymysg y garfan o'r fath o blant yn ein hysgolion o'r blaen.
Mae'n bwysig bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, ond mae'n bwysig hefyd i ddeall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cychwyn yr ymgynghoriad a sut y bydd yn gweithio gydag ysgolion i wneud yn siŵr nad oes—ac nid wyf yn awgrymu am funud y gallai hyn ddigwydd—gynnydd graddol mewn gwleidyddoli yn ystod y broses. Heb unrhyw ddatganiad o du'r Gweinidog—a gallaf glywed grwgnach yn dod o'r meinciau, ond mae'n bwynt dilys i'w wneud, oherwydd os yw'r ymgynghoriad hwn yn mynd rhagddo, fel y mae'r Llywodraeth wedi nodi, ar wahân i'r sylwadau i'r wasg, ni chafwyd unrhyw ddatganiad nac arwydd gan y Gweinidog ynglŷn â faint o amser yn union y byddai'r ymgynghoriad yn ei gymryd, y math o ryngweithio â phobl ifanc fyddai'n digwydd neu ba fath o fforymau yr ymgysylltir â nhw. Credaf fod hynny'n wybodaeth eithaf perthnasol a ddylai fod ar gael i Aelodau, pe byddai rhieni'n codi pryderon ynghylch yr ymgynghoriad hwn, neu yn wir pe byddent eisiau rhyngweithio â'r ymgynghoriad. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael datganiad gan y Gweinidog perthnasol yn nodi sut yn union y bydd yn cynnal yr ymgynghoriad hwn, ac yn benodol, pa fesurau diogelu fydd ar waith.
Rwyf o'r farn y dylai plant gael eu clywed a'u gweld, ac y dylent gymryd rhan weithredol, sy'n briodol iddynt, mewn unrhyw un o faterion mawr y dydd sy'n effeithio ar eu dyfodol. Yn amlwg, mae'n rhaid i'r rhyngweithio fod yn briodol, ond y bobl ifanc hynny sydd yn ein hysgolion ar hyn o bryd yw'r rhai hynny a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y penderfyniadau a wnawn ni, gan y byddant, yn amlwg ar y blaned yn hwy na'r rhai hynny ohonom ni sy'n dechrau tynnu 'mlaen.
Felly, credaf ei fod yn beth priodol i'w wneud. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ymdrin â phlant yn briodol. Mae'r Gweinidog, mi wn, yn bwriadu dweud rhywbeth am yr ymgynghoriad hwnnw cyn bo hir, ond fe wnaf yn siŵr y bydd yn gwneud hynny yn briodol, ac os nad yw hynny ar fin digwydd, yna gwnaf yn siŵr y bydd yn ysgrifennu at yr holl Aelodau i'r perwyl hynny.
A gaf i dynnu sylw arweinydd y tŷ at y ffaith ein bod heddiw wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol ar hapchwarae yn y Cynulliad, a gofyn iddi ystyried dadl gan y Llywodraeth ar hapchwarae? Rydym newydd gael cynigion y Comisiwn Hapchwarae ynghylch terfynellau betio ods penodedig, ac fe synnwyd llawer ohonom a oedd yn disgwyl i'r terfyn uchaf fod yn is o lawer na'r £30 a gynigiwyd. Cafodd y farchnad ei synnu hefyd, oherwydd cododd stociau a chyfranddaliadau'r cwmnïau betio ar unwaith. Roeddynt yn amlwg yn disgwyl rheoliad llawer mwy llym na'r hyn sydd gennym. Nododd yr arolwg diweddaraf o broblemau gamblo yng Nghymru bod gan 4.5 y cant o ddynion Cymru yr hyn y gellid ei ystyried yn broblem hapchwarae. Nawr, mae hwnnw'n ffigur a fydd yn codi. Nodwyd gan y Prif Swyddog Meddygol bod hwn yn fater iechyd y cyhoedd i Gymru, felly credaf y byddai dadl—rydym wedi cael dadl meinciau cefn, ond credaf y byddai dadl gan y Llywodraeth ar hapchwarae yn briodol.
Yn y ddadl honno, hoffwn wybod yn union pa bwerau dros ddatganoli y mae'r Llywodraeth yn debygol o'u cael. Cafodd ei gynnig fel datganoli pwerau i atal ymlediad y terfynellau betio ods penodedig, ond credaf nad yw'n ond yn ymwneud â swm penodol o arian—rwy'n credu mai £10 yw'r arian betio sydd wedi'i grybwyll. Yn amlwg, petai'r Comisiwn Hapchwarae wedyn yn newid lefel yr arian fe fyddai'r setliad datganoli yn edrych ychydig yn rhyfedd. Rydym wedi ei gyflwyno fel un swm, ac yna mae'r Comisiwn Hapchwarae yn gallu newid y swm, felly nid yw'n ymddangos fel setliad datganoli da iawn i mi. Ond byddai'n dda cael deall beth y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud â'r pwerau hyn, a hefyd beth yw'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Hapchwarae ei hun.
Rwyf wedi rhyngweithio â llawer o gyrff yn y DU dros y blynyddoedd, a dros y pum mlynedd diwethaf yn enwedig, maen nhw wedi gwneud mwy o ymdrech i gynnwys Aelodau'r Cynulliad ac i siarad â nhw, ac i sylweddoli eu bod yn cynrychioli Cymru pan fyddant yn cynrychioli'r DU, neu Gymru a Lloegr. Corff y DU yw'r Comisiwn Hapchwarae sydd i fod i ryngweithio â Chymru, ond nid wyf yn ymwybodol—yn sicr nid yw wedi siarad ag Aelodau'r Cynulliad, a chredaf y byddai'n ddiddorol gwybod pa berthynas sydd ganddo â'r Llywodraeth. A all y Llywodraeth enwebu aelod o'r Comisiwn Hapchwarae ei hun, er enghraifft, neu a oes ganddo unrhyw berthynas ffurfiol fel hynny? Felly, rwy'n credu y byddai dadl ar hapchwarae yn ddiddorol iawn i Aelodau, ond rwy'n credu hefyd y byddai'n berthnasol iawn i'r broses o gaffael y pwerau newydd a sut y gellid eu defnyddio.
Yr ail beth yr hoffwn i ofyn amdano, os caf i, yw datganiad syml. Ddoe, cyhoeddwyd y cytundeb Brexit rhwng David Davis a Michel Barnier. Rydym wedi gweld y manylion ynglŷn â hwnnw. Dwi ddim eisiau dadlau am hwnnw nawr—mae gennym y Biliau yr ydym yn eu trafod hefyd; yr ydym wedi cael digon o hynny, efallai. Ond, wrth gwrs, erys yn y cytundeb hwnnw, y posibilrwydd y bydd Ynys Iwerddon gyfan yn parhau mewn undeb tollau a marchnad sengl. Byddai hynny'n gwthio'r ffin yn syth i Gaergybi yn benodol, ond i weddill Cymru hefyd. Golyga hyn oblygiadau enfawr i Gymru. Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru roi datganiad ysgrifenedig inni, yn nodi, mae'n debyg, beth yw dehongliad a syniadau Llywodraeth Cymru ynghylch hynny. Beth yw'r goblygiadau i ni? Ar gyfer beth y dylem ni baratoi? Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn syml a ffeithiol i gael gwybod eich bod wedi ystyried y materion hyn a'ch bod yn barod i, os oes angen, weithredu arnyn nhw gyda Llywodraeth y DU.
Ac yn olaf, os caf i, byddwch yn gwybod y datgelwyd heddiw bod y ddau aelod sylfaenol o New Directions, sydd â chytundeb ar gyfer athrawon cyflenwi yng Nghymru, wedi gwneud bron i £1 miliwn rhyngddynt. Efallai eich bod yn meddwl sut ar y ddaear y gallwch wneud £1 miliwn mewn dwy flynedd drwy ddarparu athrawon cyflenwi. Wel, fe ddywedaf i wrthych chi sut: rydych yn codi £1,250 am athro hanes dros bedwar diwrnod a hanner, ac wedyn rydych yn talu £130 y dydd i'r athro hanes. Dyna sut yr ydych chi'n gwneud £1 miliwn drwy ddarparu athrawon cyflenwi. Ni ddylid gwneud unrhyw elw ar ddarparu athrawon cyflenwi yng Nghymru. Mae'n gwbl anghywir bod arian cyhoeddus yn creu elw ar ddarparu athrawon cyflenwi. Mae yna ddewis arall—y dewis hwnnw yw asiantaeth athrawon cyflenwi gydweithredol, neu asiantaeth athrawon cyflenwi sy'n cael ei rhedeg gan awdurdod lleol fel, er enghraifft y mae safonau bwyd yn dod o dan yr awdurdod lleol. Soniodd y Gweinidog addysg blaenorol am hynny ond ni wnaeth dim ynglŷn ag ef. Mae'r Llywodraeth hon wedi sôn amdano droeon ond wedi gwneud dim ynglŷn ag ef. Yn sicr mae'n bryd tynnu llinell o dan unrhyw elw a wneir ar ddarparu athrawon cyflenwi. Cyflwynwch ddeddfwriaeth gyflym a hawdd, y credaf y byddwn ni'n ei chefnogi, i wahardd yr arferion hyn.
Wel, roedd gan yr Aelod amryw o faterion i'w codi. O ran hapchwarae, mae'r Gweinidog yn mynd i gyflwyno datganiad, mewn gwirionedd, am sut yr ydym ni'n mynd i ddefnyddio'r pwerau newydd pan fyddan nhw gennym ni, ond rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud nad oes gennym ni'r pŵer i benodi rhywun i'r comisiwn. Rydym ni wedi gofyn i uchafswm yr arian gael ei ostwng i £2. Mae yna ymgyrch enfawr ar hyn, felly rydym ni'n siomedig iawn â'r canlyniad, a chredaf ei fod yn dipyn o ateb dros dro, gan ei roi i'r naill ochr heb gymryd y cyfrifoldeb drosto mewn gwirionedd. Rwy'n credu felly, ein bod ni'n rhannu'r siom y mynegodd yr Aelod ynglŷn â hynny. Ond bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ar y pwerau newydd a'r hyn y gallwn ni ei wneud gyda nhw i wneud yn siŵr ein bod yn cael y budd gorau.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, fel y soniodd yr Aelod o'r blaen, wedi galw ar i uchafswm yr arian gael ei ostwng i £2, oherwydd, yn amlwg, gallwch chi golli llawer iawn o arian yn gyflym iawn ar y pethau hyn. Mae'r cyfan yn rhan o'r mater o ymdrin â chaethiwed i hapchwarae a'r effaith ddifrifol y mae'n ei chael ar unigolion a'u teuluoedd. Rydw i wedi cael un neu ddau o gyfarfodydd fy hun â'r Awdurdod Safonau Hysbysebu, mewn gwirionedd, ynghylch rhai o'r materion hyn, felly byddwn i'n fwy na pharod i gael rhagor o gysylltiad â nhw am rai o'r hysbysebion a welir ar y teledu yn hwyr y nos. I'r rhai hynny ohonom ni sy'n gwylio teledu yn hwyr y nos, mae'n eithaf syndod faint ohonyn nhw a geir. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymgymryd â chodi hynny gyda'r Awdurdod Safonau Hysbysebu hefyd.
O ran Brexit, ie, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, pan fydd wedi gwella ar ôl y ffliw, yn dymuno gwneud datganiad ynghylch canlyniadau'r trafodaethau mwyaf diweddar, fel yr adroddwyd, a'u heffaith ar ein sefyllfa ni ac ati. Hoffwn i ddymuno'n dda iddo. Rwy'n gobeithio'n wir y bydd yn gallu bod yn ôl yfory, ond mae arnaf ofn na fydd. Rwy'n siŵr y bydd eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ein sefyllfa o ran hynny, cyn gynted ag y bydd yn ddigon iach.
Ac o ran athrawon cyflenwi, roedd contract Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol—cyflwynwyd tendrau gan bum endid. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol o'r pethau hyn. Clywais i hefyd y cyfweliad ar y radio y bore yma gyda'r cyflenwr dan sylw. Rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gael ei barn hi ynghylch y teimladau a fynegwyd ar y rhaglen honno, ond rhoddwyd y contract yn y modd arferol, drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Ond, fel rwy'n dweud, rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs honno ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Arweinydd y tŷ, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cael gwybod am gyfyngiadau difrifol ar gysylltiad ffynonellau pŵer, gan gynnwys ffynonellau ynni adnewyddadwy, â'r grid cenedlaethol ym Merthyr Tudful—ac, felly, rwy'n tybio mewn ardaloedd eraill hefyd. Mae'n ymddangos i mi fod goblygiadau sylweddol i hynny ar nifer o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cynhyrchu ynni, datgarboneiddio ystâd y sector cyhoeddus, ac ar economïau lleol. Felly, a wnewch chi, arweinydd y tŷ drefnu, o bosibl, i gyflwyno datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y broblem hon a'r camau y gellid eu cymryd i'w goresgyn?
Ie, rydym ni'n ymwybodol iawn o broblem cyfyngiadau'r grid, yn arbennig yn y de, sydd yn cyfyngu ar y gallu i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy mewn rhai ardaloedd, ac mae wedi bod yn broblem barhaus ers peth amser. Rydym ni wedi codi'r pryderon hyn gyda Western Power Distribution, sy'n rheoli'r rhwydwaith dosbarthu yn y de. Er ein bod yn ei alw yn 'y grid', nid un endid mohono, wrth gwrs. Rydym ni wedi cael sicrwydd nad oes unrhyw gyfyngiadau eang ar y rhwydwaith, ond mae hwylustod a chost cysylltiad â'r rhwydwaith yn dibynnu yn fawr iawn ar nifer o ffactorau, fel maint y cysylltiad, lle mae'r safle, pa anghenion cynhyrchu eraill sydd eisoes wedi cysylltu â'r rhwydwaith, beth yw'r capasiti eisoes—mae'n faes cymhleth iawn i'w drafod. Felly, oherwydd hynny, rydym ni'n trefnu grŵp i weithio gyda ni ar atebion i'r heriau cynhenid wrth ddatblygu grid addas i gefnogi ein systemau ynni yn y dyfodol, ac yna byddwn yn gallu, o ganlyniad i drefnu'r grŵp hwnnw, datblygu dewisiadau i fynd i'r afael â phroblemau seilwaith grid Cymru, sy'n digwydd ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd y grŵp hwnnw wedi cyfarfod, eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynglŷn â sut y mae'n mynd a datblygiad ei waith yn y dyfodol.
Dau fater, os caf i, arweinydd y tŷ: y cyntaf yw ei bod yn chwe wythnos dda bellach ers diwedd yr ymgynghoriad ar leoliad y ganolfan trawma newydd ar gyfer y de. Rwy'n gwybod bod yr Aelodau wedi gweithio'n galed iawn i gael pobl i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw. Mae barn gref iawn, fel y gwyddoch chi mae'n siŵr, o blaid lleoli'r gwasanaethau hynny yn Ysbyty Treforys ac, wrth gwrs, mae'n lleoliad gwell o gyfeiriad y gorllewin a de-orllewin Powys. Mae'n wasanaeth mor bwysig; meddwl ydw i tybed a gewch chi ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd iechyd cyn gynted â phosibl ar ôl toriad y Pasg.
Yn ail, tybed a gaf i ofyn i chi, neu efallai Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, am ddatganiad byr neu lythyr i Aelodau'r Cynulliad efallai yn cadarnhau a oes arweiniad ar gael i awdurdodau lleol ynghylch y defnydd o gilfachau parcio i bobl anabl yn ystod cyfnodau o adeiladu mewn ardaloedd dinesig. Mae etholwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cwyno bod gwaith sy'n cael ei wneud i gydymffurfio â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi golygu bod y cilfachau parcio i bobl anabl yn llawn o ddeunyddiau adeiladu, a bod hynny'n ei gwneud yn arbennig o anodd iddyn nhw ddefnyddio gwasanaethau'r cyngor, heb sôn am fynd i mewn i swyddfeydd y cyngor i wneud cais i adnewyddu bathodyn glas. Diolch.
O ran y mater cyntaf, roeddwn i'n awyddus iawn i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cyfrannu at yr ymgynghoriad. Canlyniad hynny, wrth gwrs, yw y cawsom ni lawer o gyfraniadau i'r ymgynghoriad, felly bydd Ysgrifennydd y Cabinet, cyn gynted ag y bydd y broses honno wedi gorffen, yn adrodd yn ôl yn fuan ar ôl toriad y Pasg. Mae'n nodio'n hapus ataf, felly rwy'n dweud hynny'n hyderus.
O ran y mater arall yr ydych yn ei godi, nid wyf yn ymwybodol o hynny o gwbl. Credaf yn wir mai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth sy'n gyfrifol am hynny, felly awgrymaf eich bod yn ysgrifennu ato i nodi manylion y digwyddiad penodol hwnnw, oherwydd nid wyf i'n ymwybodol o hynny fel problem gyffredinol.
Arweinydd y tŷ, a gaf i yn gyntaf oll gefnogi'r sylwadau gan fy nghyd-Aelod Simon Thomas o ran y ddadl am hapchwarae yr ydym yn gobeithio ei chael ar ôl cyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol ar hapchwarae heddiw? Mae yna deimladau cryf iawn, bod angen inni fynd i'r afael â'r broblem honno, mewn gwirionedd, yn enwedig yn dilyn y newyddion o San Steffan ynghylch y terfyn betio o £30, sy'n gwbl annerbyniol.
Fy ail fater yw y byddwch chi'n ymwybodol, arweinydd y tŷ, y bu Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o dan ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru ers mis Medi 2016, sef, fel y gwyddoch chi, dim ond un cam i ffwrdd o fesurau arbennig. Roedd pryder yn bodoli ar yr adeg honno ynglŷn â gofal heb ei drefnu/gofal heb ei gynllunio, ymhlith materion eraill. Yn lleol, yn amlwg, rydym ni'n ymwybodol y bu pwysau gweithredol sylweddol ar ofal heb ei drefnu, fel ym mhobman arall, dros y gaeaf, a bu effaith ganlyniadol ar gyflawni targedau perfformiad cenedlaethol. Felly, o gofio hynny i gyd ac o ystyried y ffaith bod dros flwyddyn a hanner wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru benderfynu darparu ymyrraeth wedi'i thargedu ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, byddwn yn ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn cyflwyno dadl â phwyslais penodol ar welliannau o'u cymharu â blaenoriaethau'r ymyrraeth wedi'i thargedu ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Diolch.
Ie, rwy'n cefnogi sylwadau'r Aelod ar hapchwarae, fel y nodais wrth ymateb i Simon Thomas. Rwy'n falch o weld bod grŵp trawsbleidiol wedi'i ffurfio i wneud hynny, ac, fel y dywedais i, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad cyn gynted ag y bydd gennym y pwerau sydd ar gael inni i ystyried beth y gallwn ni ei wneud â'r pwerau hynny. Mae'n bwynt pwysig iawn.
O ran y sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y mae'r Aelod yn ei chodi, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ddiwedd y flwyddyn yn crynhoi'r holl faterion sy'n ymwneud â hynny. Nid ydym ni'n bell iawn o ddiwedd y flwyddyn o ran hynny.
Arweinydd y tŷ, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu cynllun didyniad o'r gyflogres yr undeb credyd, a gefnogir gan Michael Sheen. Bûm yn siarad yn y digwyddiad lansio yr wythnos diwethaf yn Capital Law. A wnewch chi egluro sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r fenter hon ledled Cymru, sydd o fudd i gyflogwyr a chyflogeion yn y farchnad lafur?
A gawn ni hefyd ddatganiad ar yr alwad gan Ovarian Cancer Action am archwiliad clinigol cenedlaethol ar gyfer Cymru o ganser yr ofari. Fel yr amlygwyd wrth Aelodau'r Cynulliad yr wythnos diwethaf, pan ddaeth Ovarian Cancer Action i'r Cynulliad i ddigwyddiad a noddwyd gan Hannah Blythyn, canser yr ofari yw'r canser gynaecolegol mwyaf marwol yn y DU. Ar Sul y Mamau, ymunais â channoedd o bobl eraill i gerdded er cof am Lesley Woolcock o'r Barri a oedd yn ymgyrchydd diflino ar ganser yr ofari, ond yn drist iawn fe fu hi farw yn 2016 o ganlyniad i ganser yr ofari. A gaf i hefyd dalu teyrnged i Soraya Kelly a ymunodd â'r daith gerdded, sy'n cefnogi'r ymgyrch TheGlovesAreOn?
Ydw. O ran cynllun didyniad o'r gyflogres yr undeb credyd, rwy'n falch iawn o groesawu'r gwaith diweddar—pa un a yw'n cael ei gefnogi gan actorion enwog neu beidio, mewn gwirionedd—i hybu cynlluniau didynnu o'r gyflogres yr undeb credyd. Bu ymgyrch barhaus ers sawl blwyddyn bellach, mewn gwirionedd, i annog cyflogwyr mawr i ganiatáu didynnu o'r gyflogres i gefnogi'r undebau credyd oherwydd, yn amlwg, maen nhw'n cynnig modd gwych i bobl gynilo a benthyg yn gyfrifol a chadw rheolaeth ar eu cyllid ac mae manteision gwirioneddol i gyflogeion a chyflogwyr—fel y mae Jane Hutt wedi'u nodi—o weithio mewn partneriaeth ag undebau credyd.
Rwy'n gobeithio mewn gwirionedd y bydd cyflogwyr ledled Cymru yn cymryd rhan, ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf y bydd bod â nod i gydnabod cyflogwyr sy'n cynnig cynlluniau cyflogres yn helpu i ddatblygu hyn. Mae cant a deugain o sefydliadau ledled Cymru eisoes wedi cytuno i nod partner cyflogres undebau credyd Cymru, felly mae'n ddechrau calonogol iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi annog undebau credyd i ymweld â'n swyddfeydd i helpu i gynyddu'r aelodaeth ac i hyrwyddo agwedd gyfrifol tuag at gynilo a benthyg ymysg y staff. Ysgrifennodd y Gweinidog Tai ac Adfywio yn ddiweddar at Gomisiwn y Cynulliad, mewn gwirionedd, i hyrwyddo gwerth gwasanaethau cyflogres ar gyfer staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd. Byddwn yn eu cynghori cyn bo hir ar ddyfarniadau cyllid i ddatblygu prosiectau o fis Ebrill eleni, felly mae'n gynllun da iawn yn wir, ac rwy'n gobeithio y gallwn ei ymestyn ar hyd a lled Cymru. Mae hynny'n dda iawn.
Dau fater, os caf i, arweinydd y tŷ. Yn gyntaf, fel y Gweinidog dros yr holl bethau sy'n ymwneud â band eang a chysylltedd, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â mi i groesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i dreialu technoleg band eang 5G yn Sir Fynwy. Mae hwn yn gyfle gwych: rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ar hynny. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y DU i dreialu hyn i wneud yn siŵr bod modd, os yw'n llwyddiannus, ei gyflwyno cyn gynted â phosibl ledled gweddill Cymru neu fod modd datblygu atebion arloesol pwrpasol eraill?
Yn ail, mae llawer o'm hetholwyr yn poeni'n fawr am benderfyniad Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i gau ward dementia St Pierre yn ysbyty Cas-Gwent. Rwy'n sylweddoli mai mater i'r Bwrdd Iechyd yw hwn, ond tybed a allem ni gael datganiad ar y canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar sicrhau na chaiff pobl agored i niwed eu gadael—oherwydd penderfyniadau bwrdd iechyd —yn gorfod teithio pellteroedd hir ac afresymol iawn i gael y gofal dementia sydd ei angen arnynt.
Fe ddechreuaf gyda'r olaf a gweithio am yn ôl: mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ei fod yn fodlon ystyried unrhyw faterion y mae'r Aelod yn ymwybodol ohonyn nhw ynghylch hynny, felly byddwn i'n awgrymu eich bod yn ysgrifennu gydag unrhyw fanylion sydd gennych a gall ef ymdrin â nhw yn y modd hwnnw.
Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n mynd i gael peidio â dweud y geiriau 'band eang' heddiw, ond dyna ni; dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd. Mewn gwirionedd, cefais gyfarfod defnyddiol iawn gyda chyngor Sir Fynwy a'r cynghorwyr yno am fand eang yn Sir Fynwy ac am gyflwyno 5G, felly rydym ni'n hapus i'w cefnogi nhw a chawsom gyfarfod defnyddiol iawn am sut y gallem ni wneud hynny. Rydym ni'n parhau i wthio am sawl cynllun treialu 5G mewn gwahanol fannau yng Nghymru. Rwy'n parhau i fod yn bryderus iawn, fel yr wyf i wedi dweud yn aml iawn yn y Siambr hon, am y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu mynd i'r afael â gwerthu technoleg 5G a byddwn ni'n cadw llygad barcud ar hynny ac yn ymgynghori yn yr holl ffyrdd arferol a wnawn.
Roeddwn i eisiau gofyn am ddatganiad gweinidogol ynglŷn â'r hyn sydd yn digwydd i ymwneud â'r sector breifat yng nghyd-destun diogelwch y fflatiau sydd yn cwmpasu y sefyllfa deunydd cyfansawdd alwminiwm. Rydw i'n gwybod bod Llywodraeth San Steffan yn edrych i mewn i'r sefyllfa, ond pan gawsom ni dystiolaeth i'r pwyllgor sy'n cael ei gadeirio gan John Griffiths, roedd hi'n amlwg bod lot o'r sector breifat ddim wedi ymwneud â'r sefyllfa; ddim wedi rhoi gwybodaeth gerbron ynglŷn ag os oedd yna cladding ACM gyda nhw, ac rydw i wedi cwrdd â nifer o grwpiau tenantiaid yn y sector breifat sydd yn poeni mai nhw fydd yn gorfod talu y bil os oes yna broblemau. Felly roeddwn i eisiau, cyn ein bod ni'n torri am recess, gofyn am ddiweddariad ar ôl i ni ddod nôl er mwyn deall beth sydd yn digwydd yn benodol yn y sector breifat.
Ie. Rwy'n deall ein bod ni wedi gwneud cynnydd rhagorol, mewn gwirionedd, o ran ymgysylltu â pherchnogion preifat ac asiantau rheoli tua 105 o flociau preswyl uchel ledled Cymru, ond mae'r Gweinidog yn dangos ei bod hi'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch ein sefyllfa ar hyn o bryd. Felly, yn ffodus i chi, mae hi'n eistedd y tu ôl i mi yn nodi ei bod yn cytuno i hynny.
Arweinydd y tŷ, mae arnaf ofn nad ydych chi'n cael anghofio am fand eang oherwydd mae fy nghwestiwn yn deillio o ohebiaeth yr wyf wedi ei chael gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Maen nhw wedi dwyn fy sylw at ddiffyg band eang yn eu gorsaf ym Mhenmaen Dewi.
Maent wedi fy sicrhau mai dyma'r unig orsaf RNLI ledled y DU heb fand eang. Mae gwasanaeth cyflym, dibynadwy, fel y gallwch ei ddychmygu, yn hanfodol i gael bad achub i'r rhai sydd ei angen, pan mae ei angen arnynt. Ar hyn o bryd, gall lansio'r bad achub fod yn annibynadwy oherwydd cysylltiadau radio gwael, yn enwedig mewn tywydd gwael, pan mae'r angen am fad achub yn fwyaf tebygol, wrth gwrs. Dywedodd yr RNLI wrthyf eu bod nhw wrthi'n diweddaru eu system lansio yn Nhyddewi, ond bod band eang dibynadwy yn hollbwysig. Mae'n ymddangos na chawson nhw system a fu'n llwyddiannus iawn, ond yn yr achos hwn, nid oes ganddyn nhw fand eang o gwbl.
Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn yw: allech chi gael gair gydag Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am fand eang—hynny yw, chi eich hun—a siarad gyda BT a chael trafodaeth gyda nhw ynglŷn â gosod band eang, ym mha ffordd bynnag a wnânt hynny, yn yr orsaf bad achub hon yn Nhyddewi, fel nad hi fydd yr unig orsaf RNLI heb fand eang yn y DU?
Ydy. Mae Joyce Watson yn gwneud pwynt ardderchog, ac mae'n bwynt pwysig iawn hefyd. Byddaf yn sicr yn codi'r mater gydag Openreach a chyda fy swyddogion i weld a allwn ni ddatrys rhai materion gyda nhw cyn gynted â phosib. Mae rhai materion ar y gweill sy'n fasnachol gyfrinachol ynglŷn â chaffaeliadau newydd, ond rwy'n gobeithio y bydd penderfyniad yn eu cylch yr wythnos hon. Felly, gobeithio y cawn ni newyddion da cyn y gwyliau Pasg ynglŷn â'r pwynt hwnnw.
Mewn gwirionedd, gofynnwyd fy nghwestiwn cyntaf gan Mr Nick Ramsay, ac fe wnaethoch chi ei ateb yn huawdl.
Fy ail gwestiwn yw hyn. Cerddodd un o'm hetholwyr i mewn i'm swyddfa a gofynnodd y cyngor lleol iddo wneud—. Gan nad yw ei fusnes yn llewyrchus iawn, ar ôl 30 mlynedd mae eisiau rhoi'r gorau iddi, felly aeth at y cyngor a dywedodd y cyngor lleol, 'os caewch chi'r siop, bydd yn rhaid i chi dalu ardrethi llawn, ond os ydych chi'n cadw'r siop yn agored, byddwch yn talu hanner yr ardrethi.' Ai dyma beth mae Cyngor Caerffili yn ei wneud yn yr ardal gydag ardrethi? A allech chi ofyn i'ch Gweinidog llywodraeth leol esbonio pam mae'r busnesau hyn yn brwydro i oroesi, o ran yr ardrethi a phopeth arall, a pham y ceir goblygiadau o'r fath? Pan maen nhw'n masnachu, rhaid iddyn nhw dalu hanner yr ardrethi, ond os nad ydyn nhw'n masnachu, mae'n rhaid iddyn nhw dalu ardrethi llawn ar gyfer yr eiddo.
Rwy'n credu bod hynny'n fater penodol iawn, nad yw'n addas rhoi sylw iddo ar ffurf datganiad. Awgrymaf eich bod yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am ateb penodol i'r broblem honno.
Tra rydym ni wedi bod yn y Siambr, hwyrach y gwelsoch chi fod adroddiad yr anfonwyd gwasanaethau brys i RAF y Fali ar ôl i awyren Hawk a oedd yn cael ei hedfan gan dîm arddangos y Red Arrows gael damwain. Hwyrach bod yr Aelodau yn bryderus. Gobeithio na fu marwolaethau nac anafiadau, ond gwyddom fod 1,500 o bobl yn gweithio yn y ganolfan ac mae llety preswyl ar y safle ac o'i amgylch. A allai Llywodraeth Cymru, felly, sefydlu ar frys yr hyn a wyddom ni a gwneud datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau, fel y gallwn ni gael gwerthusiad o'r amgylchiadau?
Ac yn ail, ac yn olaf, ar nodyn hapusach, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Prifysgol Glyndŵr, sy'n dathlu ei 10 mlynedd gyntaf ers ymsefydlu'n brifysgol?
Ydw, rwy'n ymwybodol o'r digwyddiad yn RAF y Fali. Mewn gwirionedd, mae fy nghyd-Aelod wedi gadael y Siambr er mwyn dod o hyd i fwy o wybodaeth. Nid oes gennyf unrhyw wybodaeth bellach hyd yma. Rwy'n siŵr fel y cawn fwy o wybodaeth, y byddwn yn hysbysu'r Senedd.
Ac ydw, wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i ymuno gyda'r Aelod i longyfarch Prifysgol Glyndŵr ar yr achlysur hwnnw.
Diolch i arweinydd y tŷ.