Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 20 Mawrth 2018.
Wel, roedd gan yr Aelod amryw o faterion i'w codi. O ran hapchwarae, mae'r Gweinidog yn mynd i gyflwyno datganiad, mewn gwirionedd, am sut yr ydym ni'n mynd i ddefnyddio'r pwerau newydd pan fyddan nhw gennym ni, ond rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud nad oes gennym ni'r pŵer i benodi rhywun i'r comisiwn. Rydym ni wedi gofyn i uchafswm yr arian gael ei ostwng i £2. Mae yna ymgyrch enfawr ar hyn, felly rydym ni'n siomedig iawn â'r canlyniad, a chredaf ei fod yn dipyn o ateb dros dro, gan ei roi i'r naill ochr heb gymryd y cyfrifoldeb drosto mewn gwirionedd. Rwy'n credu felly, ein bod ni'n rhannu'r siom y mynegodd yr Aelod ynglŷn â hynny. Ond bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ar y pwerau newydd a'r hyn y gallwn ni ei wneud gyda nhw i wneud yn siŵr ein bod yn cael y budd gorau.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, fel y soniodd yr Aelod o'r blaen, wedi galw ar i uchafswm yr arian gael ei ostwng i £2, oherwydd, yn amlwg, gallwch chi golli llawer iawn o arian yn gyflym iawn ar y pethau hyn. Mae'r cyfan yn rhan o'r mater o ymdrin â chaethiwed i hapchwarae a'r effaith ddifrifol y mae'n ei chael ar unigolion a'u teuluoedd. Rydw i wedi cael un neu ddau o gyfarfodydd fy hun â'r Awdurdod Safonau Hysbysebu, mewn gwirionedd, ynghylch rhai o'r materion hyn, felly byddwn i'n fwy na pharod i gael rhagor o gysylltiad â nhw am rai o'r hysbysebion a welir ar y teledu yn hwyr y nos. I'r rhai hynny ohonom ni sy'n gwylio teledu yn hwyr y nos, mae'n eithaf syndod faint ohonyn nhw a geir. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymgymryd â chodi hynny gyda'r Awdurdod Safonau Hysbysebu hefyd.
O ran Brexit, ie, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, pan fydd wedi gwella ar ôl y ffliw, yn dymuno gwneud datganiad ynghylch canlyniadau'r trafodaethau mwyaf diweddar, fel yr adroddwyd, a'u heffaith ar ein sefyllfa ni ac ati. Hoffwn i ddymuno'n dda iddo. Rwy'n gobeithio'n wir y bydd yn gallu bod yn ôl yfory, ond mae arnaf ofn na fydd. Rwy'n siŵr y bydd eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ein sefyllfa o ran hynny, cyn gynted ag y bydd yn ddigon iach.
Ac o ran athrawon cyflenwi, roedd contract Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol—cyflwynwyd tendrau gan bum endid. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol o'r pethau hyn. Clywais i hefyd y cyfweliad ar y radio y bore yma gyda'r cyflenwr dan sylw. Rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gael ei barn hi ynghylch y teimladau a fynegwyd ar y rhaglen honno, ond rhoddwyd y contract yn y modd arferol, drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Ond, fel rwy'n dweud, rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs honno ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.