Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 20 Mawrth 2018.
Ydy. Mae Joyce Watson yn gwneud pwynt ardderchog, ac mae'n bwynt pwysig iawn hefyd. Byddaf yn sicr yn codi'r mater gydag Openreach a chyda fy swyddogion i weld a allwn ni ddatrys rhai materion gyda nhw cyn gynted â phosib. Mae rhai materion ar y gweill sy'n fasnachol gyfrinachol ynglŷn â chaffaeliadau newydd, ond rwy'n gobeithio y bydd penderfyniad yn eu cylch yr wythnos hon. Felly, gobeithio y cawn ni newyddion da cyn y gwyliau Pasg ynglŷn â'r pwynt hwnnw.