Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 20 Mawrth 2018.
Ie. Rwy'n deall ein bod ni wedi gwneud cynnydd rhagorol, mewn gwirionedd, o ran ymgysylltu â pherchnogion preifat ac asiantau rheoli tua 105 o flociau preswyl uchel ledled Cymru, ond mae'r Gweinidog yn dangos ei bod hi'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch ein sefyllfa ar hyn o bryd. Felly, yn ffodus i chi, mae hi'n eistedd y tu ôl i mi yn nodi ei bod yn cytuno i hynny.