3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:25, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, heddiw, fe'n galwyd ni lefarwyr am 10:30 i gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet i drafod y cynigion ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny. Mae wedi dadlau ers iddo ymgymryd â'i swydd bod arno eisiau gwneud hynny gyda pharch llwyr, ac mae hynny'n rhywbeth y mae arnom ni eisiau gweithio tuag ato, mewn modd cadarnhaol, wrth gamu i'r dyfodol. Fodd bynnag, mae'n rhaid imi fod yn onest, i gyflwyno wedyn Bapur Gwyrdd 70 tudalen o hyd gydag ychydig iawn o amser i'w ddarllen ac i allu craffu yn uniongyrchol, nid yw'n rhoi llawer o amser inni, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos diffyg parch. Fodd bynnag, rydym ni'n symud ymlaen; rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi, ac mae gennym ni gwestiynau'r llefarwyr yfory, felly yn ddiamau byddaf yn holi ynghylch rhai o'r pwyntiau mwy dadleuol.

Ond, wyddoch chi, gall diwygio ym mha bynnag fodd, a sut bynnag y mae'n ofynnol, fod yn ddadleuol, yn enwedig o gofio bod hon yn ymgais arall eto gan eich Llywodraeth i fynd i'r afael â system fethedig o lywodraeth leol, ac mae hi wedi methu dan Lywodraeth Lafur Cymru. Nid wyf yn rhoi'r bai ar ein staff gweithgar, ein swyddogion na'n haelodau etholedig ym mhob un o'r 22 awdurdod. Y bai am 20 mlynedd o redeg ein system llywodraeth leol i gyflwr a ddisgrifiwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel gweld gwasanaethau

'yn cael eu gwasgu hyd yr eithaf ac mae’r cyhoedd yn...rhwystredig wrth dalu mwy o dreth cyngor ac eto’n gweld gwasanaethau cymunedol allweddol yn cael eu torri neu'n cau'—.

Yn wir, mae'n arwyddocaol nad oes unrhyw sôn mewn gwirionedd am wella ansawdd gwasanaethau i drigolion lleol, nid oes sôn am yr egwyddorion sylfaenol sy'n ofynnol gydag unrhyw ddiwygio, o lywodraethu ariannol, atebolrwydd democrataidd ac uniondeb ariannol. Rydym ni'n gwybod bod y sefyllfa gyfan ar hyn o bryd yn anghynaladwy a bod yn rhaid i rywbeth newid. Unwaith eto, dyna'r hyn y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei ddweud.

Y maes mwyaf mewn llywodraeth leol lle gellid gwneud arbedion ymlaen llaw heb ailstrwythuro cynhwysfawr yw drwy weithio ar y cyd mewn gwasanaethau cefn swyddfa, a chrybwyllwyd hynny gyda'r holl gyrff rheoleiddio ac eraill sy'n awyddus ein bod yn darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ledled Cymru. Gyda hynny nid oes angen unrhyw newid i ddeddfwriaeth, nid yw'n effeithio ar gynrychiolaeth ddemocrataidd a gallai ddechrau ar unwaith. Mae'r agweddau cefn swyddfa ar lywodraeth leol wedi cael eu halltudio i dudalennau 41 a 42 y Papur Gwyrdd, ac rydych chi'n cael yr argraff ei fod yn ôl-ystyriaeth. Mae hynny, i mi, yn dweud cyfrolau bod Llywodraeth Lafur Cymru nid yn unig wedi andwyo ein gwasanaeth iechyd ers datganoli, ond oherwydd diffyg gweledigaeth strategol ac arweinyddiaeth, mae gennym ni bellach system ddarniog iawn o wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.

Rydych chi'n cyfeirio at gomisiwn Williams yn eich Papur Gwyrdd, gan dynnu sylw at rai o'r problemau sy'n wynebu llywodraeth leol. Eto i gyd, nid yw'n cydnabod llawer o'r 62 o'r argymhellion eraill a wnaed gan y comisiwn hwnnw.

Dyma bellach fydd y drydedd ymgais a'r trydydd cyhoeddiad o fwriad eich llywodraeth chi o chwarae'r ffiniau —rwy'n golygu ad-drefnu llywodraeth leol. Dros y saith mlynedd diwethaf, yn fy swyddogaeth fel llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Leol, mae'r portffolio hwn wedi newid dwylo yn y Cabinet ddim llai na phum gwaith gyda thri model gwahanol o ddiwygio Llywodraeth Leol yn y dyfodol. Mae'n debyg mai fy nghwestiwn cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yw: a ydych chi'n credu, mewn gwirionedd, y byddwch chi hyd yn oed yn dal i fod yn y swydd i weld unrhyw ddiwygio sylfaenol a chadarnhaol yn y dyfodol?

Yn 2016, adroddwyd hefyd bod eich rhagflaenydd, Mark Drakeford, wedi addo i arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin y byddai ei gyngor yn uned ar wahân am o leiaf 10 mlynedd, gan gefnogi yn hytrach y dewis o weithio'n rhanbarthol. Cawn wybod bellach fod y Papur Gwyrdd yn ceisio cael gwared ar weithio rhanbarthol ac, wrth wneud hynny, rydych yn taflu cynghorau, a'u staff, i fwy o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd.

Nawr, rwy'n credu bod hyn yn golygu tri chynnig ar gyfer diwygio Llywodraeth Leol mewn dwy flynedd. Mae nifer y cyhoeddiadau ac ymgynghoriadau a restrir yn Atodiad A—wyth mewn dwy flynedd—yn dangos pa mor hir fu'r daith o adeg cyhoeddi adroddiad Williams i'r sefyllfa bresennol. Yn sicr ni fu'n uniongyrchol. Rwy'n nodi'r dewisiadau a amlinellir yn y papur gwyrdd ac o'r farn mai un yn unig sy'n diogelu awdurdodau lleol rhag uno gwirfoddol. A oedd sicrwydd eich rhagflaenydd i Gyngor Sir Gaerfyrddin, felly, yn anghywir o ran dewis 1 ac uno gwirfoddol? Nawr bod y rhain yn bosibiliadau unwaith eto, a fyddwch chi'n dechrau trafod gyda'r awdurdodau hynny, a beth ydych chi wedi ei wneud hyd yn hyn ar gyfer y rhai a gyflwynodd gynigion ar uno gwirfoddol o'r blaen, i wneud yn iawn i'r rhai a daflwyd yn ddiseremoni o'r neilltu gan Weinidog, wel, Cabinet blaenorol, ar y pryd?

O ran dewisiadau 2 a 3, rydym ni'n wynebu yr un pryderon ynghylch y broses wirioneddol tuag at uno. Ble mae eich dadansoddiad cost ar gyfer gweithredu'r system a fydd, i bob pwrpas, yn gweld 22 awdurdod lleol mewn gwirionedd yn lleihau i 10? Ynglŷn â chysoni'r dreth gyngor, prin iawn yw'r sôn am hynny yn y papur hwn. Dywed fod cydgyfeirio wedi digwydd, ac, yn y rhan fwyaf o leoedd, bod y gwahaniaethau heddiw yn fach ac ni ddylai hyn fod yn broblem nad oes modd ei datrys. Ond rydym yn gwybod, yn Sir Fynwy, er enghraifft, ar gyfer eiddo band E, mae'n £300 yn llai nac ym Mlaenau Gwent. Ac rydych chi mewn difrif calon eisiau uno Blaenau Gwent, Torfaen gyda Sir Fynwy. Rydym ni'n gwybod beth yw gwreiddyn hyn. Mae hyn yn ymwneud â gweithio gyda system etholiadol newydd, yn y dyfodol. Ac mae hyn yn—mae hyn yn ddiwygio gwleidyddol. Does a wnelo ddim â darparu gwasanaethau da i'n pobl.

O ran pwyllgorau pontio ac awdurdodau cysgodol, mae gennym yr un cwestiynau ag yn y Cynulliad diwethaf. Sut y byddant yn atebol? Beth fydd y gost? Pwy fydd yn eu diogelu ac yn eu cynllunio ymhell ymlaen llaw? Rwy'n sylwi ichi esbonio eich bod yn bwriadu datganoli pwerau sylweddol i awdurdodau lleol—mae wedi cymryd 20 mlynedd mewn gwirionedd ichi hyd yn oed ystyried gwneud hynny—er enghraifft, defnydd tir, cynllunio, tai, sgiliau, trafnidiaeth a'r amgylchedd, yn ogystal â materion yn ymwneud ag arian, cyllid a threthu. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn yn amrywiaeth sylweddol iawn, ac rwy'n dal i fod, mewn gwirionedd, yn amheus ynghylch a yw'r Llywodraeth hon yn barod amdani. Yn y bôn, cynnig mwy o ffyrdd i drethu ein trigolion lleol sy'n gweithio'n galed—rydym ni'n gwybod bod grŵp Llafur Cymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr wedi galw am dreth gyngor uwch, treth gwerth tir newydd a threth gwesty, felly a wnaiff ef—