Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 20 Mawrth 2018.
Rydw i'n dal yn mynd i fod yn cymryd fy optimism ymlaen gyda'r math o atebion rydym ni'n eu cael, achos beth rydw i'n clywed gan y llefarydd Plaid Cymru yw ailadrodd hanes; araith hanesyddol, ond ddim yn cynnig unrhyw syniadau newydd. Dyna beth nad ydym ni'n gweld yn y drafodaeth yma. Nid oes un o'r gwrthbleidiau rydym ni wedi clywed ganddyn nhw yn barod—nid oes ganddyn nhw unrhyw syniadau o gwbl am sut rydym ni'n mynd i symud ymlaen.
A gaf i ddweud hyn? A gaf i ddweud hyn yn glir? Rydw i wedi bod yn siarad gydag arweinwyr cyngor ar draws Cymru, yn cynnwys arweinwyr Plaid Cymru, ac a gaf i ddweud hyn wrthych chi: nid oes neb sydd yn mynd i ddweud eu bod nhw'n hapus gyda'r sefyllfa bresennol ac yn credu bod y strwythur presennol yn gynaliadwy yn y dyfodol? Ac mae'n rhaid i fi wynebu hynny. Mae'n rhaid i fi wynebu hynny. Mae'n bosibl i chi edrych yn ôl i'r etholiadau diwethaf, ond mae'n rhaid i fi edrych i'r dyfodol, ac mae'n rhaid i fi edrych ymlaen, ac mae'n rhaid i fi meddwl amboutu'r math o strwythur a fydd yn rhoi sicrwydd i'r gweithwyr cyngor ac i'r bobl sy'n derbyn y gwasanaethau lleol.
Nid yw hi'n ddigonol, felly, i beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth yna amboutu'r dyfodol. Fe wnaf i ddweud hyn wrthych chi: rydw i eisiau chwilio am gytundeb gyda llywodraeth leol. Nid ydw i eisiau gwthio newid trwyddo oni bai bod yna gefnogaeth am hynny. Rydw i eisiau treulio amser yn cael y sgyrsiau yma. Rydw i eisiau treulio amser yn arwain y drafodaeth yma. Rydw i eisiau cael y math yma o drafodaeth ar draws Cymru i sicrhau ein bod ni yn cael cytundeb yn y pen draw, so bod yna gytundeb ar y ffordd ymlaen. Ac rydw i'n fodlon buddsoddi amser i wneud hynny, ac rydw i'n fodlon buddsoddi adnoddau, fel Llywodraeth, i sicrhau ein bod ni yn cael y cytundeb yna. Ond, mae'n rhaid i ni hefyd gael arweinyddiaeth. Mae'n rhaid i ni hefyd gael arweinyddiaeth, ac nid yw hi'n ddigonol i edrych yn ôl. Pan rydych chi'n trio arwain, mae'n rhaid i chi edrych o'ch blaen chi.
Rydw i'n trafod ar hyn o bryd y math o bwerau y gallem ni eu trosglwyddo i lywodraeth leol, ac mi fyddaf i'n gwneud datganiad ar hynny pan rydw i mewn sefyllfa i wneud hynny. Mae'r Aelod yn gofyn a fydd cyllid ar gyfer y pwerau newydd yma. Wrth gwrs, mae rhai o'r pwerau yma yn gallu codi eu cyllid eu hunain. Mae'n dibynnu ar sut mae llywodraeth leol yn defnyddio'r pwerau newydd. Felly, rydw i eisiau edrych ar sut rydym ni'n creu pecyn gwahanol, newydd ar gyfer llywodraeth leol, ac rydw i'n mynd i chwilio am gytundeb gyda llywodraeth leol. Ond, rydw i'n mynd i sicrhau bod y cytundeb yma yn gytundeb gydag uchelgais—uchelgais ar gyfer lywodraeth leol, uchelgais ar gyfer y dyfodol, ac uchelgais am beth rydym ni'n gallu gwneud fel gwlad.