Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 20 Mawrth 2018.
Fe gollodd Leighton Andrews ei sedd yn y Rhondda ym Mai 2016, yn sgîl buddugoliaeth swmpus fy ffrind Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru. Daeth Mark Drakeford yn Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac roedd yna gynigion newydd ar y bwrdd. Roedd uno cynghorau, drwy Ddeddf, wedi mynd, ac roedd rhanbartholi mandadol o rai gwasanaethau yn opsiwn canolog i weledigaeth Drakeford. A dyma ni, bron i dair blynedd yn ddiweddarach, ac o dan oruchwyliaeth Ysgrifennydd Cabinet newydd eto—y trydydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Leol mewn tair blynedd. A dyma ni, yn ôl i fap tebyg iawn i un Leighton Andrews. Roedd ganddo fo wyth neu naw cyngor newydd; heddiw, 10 cyngor newydd sydd ar y bwrdd.
Felly, mi hoffwn i ofyn: pam fydd uno cynghorau yn mynd i ddenu cefnogaeth y tro yma pan fethwyd y tro diwethaf? A fedrwch chi gadarnhau bod yr amserlen yn opsiwn 2 yn golygu bod gan gynghorau tan 2027 i uno? Rydw i'n meddwl bod Janet Finch-Saunders wedi gofyn y cwestiwn, ond wnes i ddim clywed yr ateb. Roedd Mark Drakeford wedi gwarantu na fyddai yna newid am 10 mlynedd. Eisoes, rydw i'n cael negeseuon yn gofyn am gadarnhad o hynny, felly mi fuaswn i'n falch iawn petaech chi'n gallu cadarnhau hynny. Ynglŷn â'r pwerau newydd a fydd yn cael eu datganoli i'r cynghorau newydd yma, beth fydd y pwerau yma? Ac a fydd yna gyllid yn mynd efo'r pwerau hynny? Ac yn olaf, a fydd eich Llywodraeth yn gwneud dadansoddiad o faint fydd yr opsiwn o uno cynghorau yn ei gostio?
I gloi, mae yna dri pheth yn glir. Unwaith eto, mae llywodraeth leol mewn limbo. Unwaith eto, mae gweithwyr yn ansicr am eu dyfodol. Unwaith eto, rydym ni'n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd yn ailgylchu cynigion, yn ailgychwyn sgwrs sydd wedi ei chynnal yn aflwyddiannus o'r blaen, a dim arwydd o gynnydd o du'r Llywodraeth aneffeithiol yma.