Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 20 Mawrth 2018.
Rwy'n credu y bydd yr Aelodau drwy'r Siambr gyfan yn falch o glywed bod gan y Ceidwadwyr Cymreig gwestiwn neu ddau ar ddiwedd hynny. Byddaf yn dweud wrth yr Aelod imi orffen fy natganiad gyda'r geiriau fy mod yn gobeithio y gallwn ni gael sgwrs gadarnhaol, adeiladol a gobeithiol bellach. Efallai fod hynny, ynddo'i hun, yn obeithiol. Mae'r Aelod wedi rhestru nifer o ymgynghoriadau a'r broses y buom drwyddi dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yr hyn na soniodd amdano yw'r ffaith nad yw hi wedi cefnogi dim un o'r cynigion hynny, nac ychwaith wedi cyflwyno unrhyw gynigion ei hun. Wyddoch chi, nid yw'n ddigonol—. A gadewch imi ddweud hyn, gadewch imi ddweud hyn yn gwbl, gwbl eglur: mae'n ymateb annigonol i'r heriau y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu i wneud dim amgenach na dweud ac ailadrodd yr areithiau a wnaed flwyddyn a dwy flynedd yn ôl. Mae hynny'n ymateb annigonol. Mae'n ymateb annigonol. Mae'n ymateb annigonol. Mae'n ymateb annigonol i'r hyn a gynigir heddiw, a'r hyn a gynigir yn y Papur Gwyn hwn. Gadewch imi ddweud hyn: mae'r Aelod dan sylw, y Blaid Geidwadol—[Torri ar draws.] Rydych chi wedi gofyn y cwestiynau; rwyf yn eithaf parod i eistedd os nad ydych chi'n barod i wrando ar yr atebion. Gadewch imi ddweud hyn: mae'r Ceidwadwyr yn disgrifio ein system llywodraeth leol yn system sydd wedi methu a system sydd wedi torri. Rwy'n gwrthod hynny. Rwy'n gwrthod y disgrifiad hwnnw. Rwy'n ei wrthod yn llwyr. Rwy'n gwrthod ei beirniadaeth o arweinwyr llywodraeth leol, ac rwy'n gwrthod ei beirniadaeth o'r ffordd y mae llywodraeth leol ar hyn o bryd yn cael ei rheoli yng Nghymru. Yr hyn yr wyf eisiau ei wneud yw nid edrych am anawsterau ac edrych am yr agweddau hynny lle mae heriau yn wynebu llywodraeth leol. Yr hyn yr wyf eisiau ei wneud yw edrych ar ddyfodol llywodraeth leol a bod yn gadarnhaol am y dyfodol hwnnw.
Mae'r Aelod yn gofyn am systemau pleidleisio, ac mae'n defnyddio iaith pur wael er mwyn disgrifio ei phryderon. Ond rhaid imi ddweud wrthi, gwnes y datganiad hwnnw— [Torri ar draws.] Gwnes y datganiad hwnnw—gwnes y datganiad hwnnw, ym mis Ionawr, ynglŷn â systemau etholiadol. Nid ydym wedi diwygio hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl, ac mae hynny yn ffurfio rhan o sail yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud heddiw. Ond gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn cefnu ar arfer oes ac yn edrych tuag at ddyfodol cadarnhaol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y byddant yn rhan o'r broses hon—nid ydyn nhw wedi bod hyd yn hyn, ond rwy'n gobeithio y byddant yn gwneud hynny. A gadewch imi bwysleisio eto, Llywydd, proses Papur Gwyrdd yw hon. Nid terfyn sgwrs; mae'n ddechrau sgwrs. Rwyf eisiau clywed, a byddaf yn ceisio mynd ati'n rhagweithiol i glywed, nid yn unig yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud am y cynigion a wnaf yn y ddogfen hon, yn y Papur Gwyrdd hwn, ond cynigion y mae eraill yn dymuno eu gwneud yn ogystal â'r cynigion sydd ganddyn nhw i rymuso awdurdodau lleol, cynigion sydd ganddyn nhw i wneud llywodraeth leol yn fwy cadarn a mwy pwerus yn y dyfodol, cynigion sydd ganddynt er mwyn datganoli mwy o bwerau o'r lle hwn i lywodraeth leol ledled Cymru, cynigion sydd ganddyn nhw i wella'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu, a chynigion sydd ganddyn nhw er mwyn cryfhau a grymuso atebolrwydd democrataidd a'n dadleuon democrataidd lleol ledled Cymru. Mor wahanol i'r Ceidwadwyr, pryd bynnag y gofynnir y cwestiynau anodd, y cyfan a glywn yw distawrwydd byddarol.