Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 20 Mawrth 2018.
Rwy'n cytuno â rhannau helaeth o araith Nick Ramsay, er mawr syndod iddo—mewn gwirionedd, rwy'n creu ei fod yn gywir. Y peth diddorol yw ei fod yn ei ddisgrifio ei hun yn un o feibion Sir Fynwy ac mae'n cymryd perchenogaeth o hynny, ond rwyf i o Sir Fynwy. Cefais fy ngeni yn Ysbyty Sant Ioan, Tredegar, Sir Fynwy. Cefais fy addysg yn Sir Fynwy hefyd. A'r tro cyntaf y gwelais y Crysau Duon yn chwarae, roedden nhw'n chwarae yn Sir Fynwy. Wyddoch chi, mae'n rhan o fy hunaniaeth i yn ogystal â bod yn rhan o'ch hunaniaeth chi, Nick, ac rydych chi'n gwybod hynny ac rwyf innau'n gwybod hynny. Rydym ni'n dau yn hanu o'r lle hwnnw y mae'r ddau ohonom ni yn ei adnabod a lle mae gennym wreiddiau hanesyddol sy'n mynd yn ôl ymhell mewn hanes. Dyna pam mae'r pwynt yr ydych yn ei wneud, a'r pwynt a wnaeth Paul Davies hefyd, mor bwysig ynghylch sut bethau yw strwythurau lleol.
Nid yw fy nghred yn fy nharddiad a fy hunaniaeth i, fel rhywun o ororau Cymru, o Sir Fynwy, y sir ar y ffin, yn seiliedig ar strwythur llywodraeth leol, ond mae'n seiliedig ar sut yr ydym ni'n gweld ein hunain a sut yr ydym ni'n diffinio ein hunain yn yr hyn a wnawn a sut yr ydym ni'n byw, ac nid yw hynny'n fater—. Ni all unrhyw wleidydd gymryd hynny oddi ar rywun, ac ni all unrhyw wleidydd ei greu chwaith.
Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yma yw cydnabod y ffiniau hanesyddol hynny, y traddodiadau hanesyddol hynny, yr hanesion hynny sydd wedi creu pob un ohonom ni. Dydych chi ddim yn berchen ar Sir Fynwy ac nid wyf innau chwaith. Mae'r ddau ohonom ni'n rhannu'r hanes hwnnw a'r ddau ohonom yn rhannu'r hunaniaeth honno. Rwy'n cydnabod dilysrwydd y pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud ac yn cydnabod y pwyntiau a wnewch chi o ran y strwythurau yr ydym ni wedi'u disgrifio yn y Papur Gwyrdd hwn. Ond yr hyn y byddwn i mewn gwirionedd yn ei werthfawrogi gennych chi yw nid beirniadaeth o hynny ond dewis amgen a chynnig i adeiladu arno.
Rydych chi a minnau'n cydnabod mai'r hyn na allwn ni ei wneud heddiw yw parhau i wneud yr hyn yr ydym wedi'i wneud yn y gorffennol, ac mae hynny'n golygu bod angen inni feddwl yn ddwys am y materion hyn. Mae angen inni feddwl yn ddwys am y bobl sy'n darparu ein gwasanaethau, mae angen inni feddwl yn ddwys am sut yr ydym ni'n gosod atebolrwydd democrataidd wrth wraidd hyn i gyd, ac mae angen inni feddwl yn ddwys am y math o strwythurau y gallem ni ddatganoli pwerau iddyn nhw, ac fe allwn ni ddatganoli a grymuso cyfleoedd newydd i lywodraeth leol, i weld dadeni mewn llywodraeth leol yng Nghymru ac i sicrhau bod gan lywodraeth leol yn y dyfodol nid yn unig y pwerau ond y gallu i gyflawni gyda'r pwerau hynny.