Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 20 Mawrth 2018.
A gaf i yn gyntaf roi ar gofnod, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod i'n credu y byddai'n well gennyf fyw yn y tŷ drws nesaf i chi nag yn yr un tŷ â chi? Efallai fod amser o hyd i'ch swyn weithio arnaf, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, rwy'n bodloni ar fod yn gymydog. [Chwerthin.]
Rydych chi'n sicr yn haeddu clod am eich dewrder wrth fynd ar drywydd materion sydd wedi eu cynllunio yn ôl pob golwg i'ch gwneud yn llai poblogaidd, gymaint felly yn y Blaid Lafur, o ystyried areithiau heddiw, a chyda'r pleidiau gwleidyddol eraill. Nawr, rwy'n croesawu eich datganiad heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n drafodaeth ddiddorol. Rydym ni, bob un ohonom ni, eisiau trafod sut yr ydym ni'n datblygu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ond mae'n rhaid imi ddweud, ni allaf ddeall pam mae'r Papur Gwyrdd hwn yn dechrau drwy ddweud bod llywodraeth leol yn golygu mwy na thynnu llinellau ar fapiau, ac yna ar y dudalen nesaf rydych chi'n tynnu llwyth o linellau ar fapiau. Nid oes unrhyw ddewisiadau ynghylch sut y dylid tynnu'r llinellau hynny. Mae'n cael ei wthio i ganol y ddogfen rywsut fel y ffordd amlwg o'i wneud, ond does dim rhesymeg wirioneddol yn perthyn iddo, i mi.
Mae yna lawer o ystadegau diddorol, yn amrywio o boblogaeth i sylfeini treth gyngor, ond dim cydnabyddiaeth o bwysigrwydd naws ardal, ei chymeriad, ei brand—i ddefnyddio'r term modern. Pam ydych chi'n mynd ati fel hyn, yn hytrach nag edrych ar y ffactorau hynny, er enghraifft, yn fy ardal i, sy'n gwneud Sir Fynwy yn llwyddiannus yn harneisio ynni ei phobl, yn hybu ei hanes a'i threftadaeth, ac yn tyfu economi leol, oherwydd mae'r brand yn gweithio? Nid yw'n wir fod llywodraeth leol wedi bod yn drychinebus ledled Cymru. Bu elfennau o arfer da a bu elfennau o arfer gwael. Credaf mai eich bwriad—o leiaf, credaf mai eich bwriad ar ddechrau'r broses hon—yw ceisio gwneud yn siŵr mai'r arfer da sy'n cario'r dydd ar yr arfer gwael. Byddem yn sicr yn cefnogi hynny.
Nid oes unrhyw eglurhad ynglŷn â sut y bydd ardal llywodraeth leol 10, y credaf y byddaf yn byw ynddi yn y pen draw—. Rwy'n ffyddiog mai teitl gweithredol yw hynny, mae yn swnio ychydig fel rhywbeth o Nineteen Eighty-Four— Orwellaidd iawn—efallai fod hyn yn seiliedig ar rywbeth. Sut y bydd yr ardal 10 honno yn cynnig brand mwy llwyddiannus? A gaiff ei hadnabod neu ei pharchu neu ei derbyn gan y bobl sy'n byw ynddi? Fel y dywedodd Gareth Bennett yn ei sylwadau yn gynharach, os ydych chi'n sôn am uno ardal fel Sir Fynwy a Blaenau Gwent—iawn, mae gennych chi ffordd Blaenau'r Cymoedd, sy'n cael ei datblygu, ac efallai fod rhai dadleuon o blaid adeiladu ar hynny, ond nid yw'n ymddangos i mi fod y cyhoedd, y bobl ar lawr gwlad y mae'r cyrff hyn i fod i'w cynrychioli, yn ymwneud â hyn neu yn rhan o hyn o gwbl mewn gwirionedd. Felly, os hoffech chi ddod i fy ardal i rywbryd, fe wnaf i eich tywys o gwmpas un o'r sioeau cefn gwlad, ac rwy'n siŵr y byddech yn cael barn y bobl yn ebrwydd iawn.
Nawr, fel chithau, rwy'n optimist, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae angen sail ar gyfer yr optimistiaeth honno a rhaid iddi fod yn fwy na cham yn y tywyllwch. Mae arnaf ofn bod y papur hwn ar hyn o bryd yn agosach i'r diwethaf na'r cyntaf.