4. Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:30, 20 Mawrth 2018

Mae'r pwyllgor hefyd yn dod i'r casgliad y dylid cyflwyno safonau ychwanegol. Fel y mae pethau'n sefyll, mae'r safonau yn gwbl annigonol a diffygiol. Gan y bydd yna bleidlais heddiw, nid oes gennym ni yn rhengoedd Plaid Cymru ddim dewis ond pleidleisio yn erbyn y safonau gwan yma. Nid yw'r safonau sydd gerbron yn gosod unrhyw safon sy'n cydnabod yr angen am wasanaethau wyneb yn wyneb drwy'r Gymraeg yn ein hysbytai. Nid ydyn nhw chwaith yn gosod safonau ar gyfer y mwyafrif helaeth o ddarparwyr gofal sylfaenol, sef y prif gysylltiad rhwng trigolion a'r byd iechyd.

Mae cael cysylltiad wyneb yn wyneb yn eich mamiaith i drafod agweddau o'ch gofal iechyd yn gwbl angenrheidiol i ansawdd y gwasanaeth hwnnw, yn arbennig felly os ydych chi'n blentyn bach sydd heb gaffael yr iaith Saesneg eto, neu os ydych chi'n dioddef o broblemau cof megis dementia sy'n golygu mai yn eich mamiaith yn unig y byddwch chi'n cyfathrebu, neu os ydych chi'n dioddef salwch meddwl ac am drin emosiynau dyrys mewn ffordd ystyrlon. Mae ansawdd y gofal, ac, mewn rhai achosion, diogelwch y claf, yn cael eu cyfaddawdu os oes yna broblemau cyfathrebu. Mae'r angen hwnnw yn cael ei gydnabod yn gwbl glir yn strategaeth arloesol Llywodraeth Cymru 'Mwy na geiriau', ond, yn anffodus, nid ydy ysbryd y strategaeth honno yn cael ei adlewyrchu yn y safonau gwan sydd gerbron heddiw. 

A gawn ni oedi am funud i ystyried beth yn union yw safonau? Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, sef dull o bennu safonau ymddygiad mewn perthynas â'r Gymraeg. Yn achos y sector iechyd, mae yna 114 safon yn cael eu pennu, yn ymwneud yn bennaf â gohebiaeth, galwadau ffôn, cyfarfodydd staff, arwyddion, cyfweliadau swyddi, llunio polisi ac yn y blaen. Ond nid oes disgwyl i gorff iechyd neidio yn syth i gyflawni hynny dros nos. Mae proses lle bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cyflwyno hysbysiad cydymffurfio ar y corff dan sylw, ond, ac mae hwn yn 'ond' pwysig, nid oes rheidrwydd ar y comisiynydd i'w gwneud hi'n ofynnol i bob corff gydymffurfio â phob safon. Yn hytrach, rhestr yw safonau—bwydlen, os liciwch chi—ac os yw hi'n amlwg yn gwbl anymarferol i gorff weithredu yn unol ag unrhyw un o'r safonau yna nid oes rhaid i'r safon benodol yna fod yn yr hysbysiad cydymffurfiol. Nid oes yn rhaid chwaith i'r safonau fod yn weithredol yn syth. Mae hyblygrwydd mawr yn y system yn galluogi'r comisiynydd i osod diwrnod gosod i'r dyfodol.

Beth sy'n cael ei anghofio fel rhan o'r drafodaeth yma i gyd yw llais y claf. Prin iawn yw'r sôn am hawliau cleifion mewn ysbyty. Mae yna un safon o blith y rhain yn sôn am yr angen i gofnodi dymuniad i siarad Cymraeg, ond, ar ôl gwneud hynny, nid yw'n sôn am beth i'w wneud efo'r wybodaeth. Wedyn mae yna safon arall yn sôn am gyhoeddi cynlluniau pum mlynedd am y camau sy'n bwriadu cael eu cymryd i gynyddu'r gallu i gynnal ymgynghoriad clinigol yn y Gymraeg, ond, eto, nid oes yna safon benodol sydd yn gosod yr hawl i wasanaeth Cymraeg, ac felly mae hyd yn oed y safon bum mlynedd yn mynd yn ddiystyr oherwydd nad ydy'r safon yna yn cael ei diffinio yn glir fel rhan o'r rheoliadau yma. Nid oes yna gyfeiriad o gwbl at osod safonau yn y sector gofal sylfaenol annibynnol, sydd yn wendid amlwg.

Fy nadl i ydy y dylai'r safonau osod hawliau am wasanaeth wyneb yn wyneb yn y Gymraeg—hawliau clir. Wrth gwrs, mae yna heriau mawr, rydym ni i gyd yn gwybod hynny, ond mae yna newid ar droed wrth i fwy a mwy o nyrsys a doctoriaid dderbyn eu hyfforddiant drwy'r Gymraeg. Mae angen ymateb yn greadigol i'r heriau sydd yn wynebu'r gwasanaeth iechyd. Mae modd ychwanegu at y safonau yma heb achosi problemau mawr, a byddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, yn troi pob carreg i ganfod yr atebion creadigol, a byddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, efo'r ewyllys wleidyddol gadarn i fynnu bod anghenion siaradwyr Cymraeg yn cael eu cyfarch yn llawn.