– Senedd Cymru am 4:49 pm ar 20 Mawrth 2018.
Symudwn yn awr at eitem 5 ar ein hagenda, sef Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018. Galwaf ar arweinydd y tŷ i gynnig y cynnig hwnnw—Julie James.
Cynnig NDM6694 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad y llynedd ar ba un a ddylai Awdurdod Cyllid Cymru gael mynediad at rai o'r un pwerau troseddol â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Roedd yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 2 Hydref, yn canolbwyntio ar y pwerau hynny i atal ac ymchwilio i droseddau treth datganoledig—pwerau sy'n gyson â'r rhai hynny a ddefnyddir gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn Lloegr ar gyfer y trethi y mae'n gyfrifol amdanynt. Cafwyd dau ar bymtheg o ymatebion, gan gynnwys cyfraniadau gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn gyffredinol, roedd cefnogaeth i ganiatáu i Awdurdod Cyllid Cymru arfer pwerau mynediad, chwilio ac atafaelu, yn amodol ar gael gwarant, i arfer pwerau penodol o dan Ddeddf Enillion Troseddu 2002 drwy ymchwilwyr ariannol achrededig, ac i gynnal ac awdurdodi'r defnydd o wyliadwriaeth gudd a gwyliadwriaeth gyfeiriedig yn unol â Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, gosodwyd drafft o'r Reoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018 gerbron y Cynulliad ar 21 Chwefror. Dirprwy Lywydd, rwyf heddiw yn ceisio cefnogaeth y Cynulliad ar gyfer y rheoliadau hyn. Ar 21 Chwefror, gosodwyd Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018 a Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) (Diwygio) (Cymru) 2018 o dan y weithdrefn negyddol. Mae'r rhain yn cwblhau'r pecyn o bwerau ymchwilio a fydd ar gael i Awdurdod Cyllid Cymru. Dirprwy Lywydd, hoffwn dynnu sylw at rai pwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac egluro sut yr ydym wedi ymateb.
Cafwyd ymateb cymysg i'r cynnig i beidio â darparu pwerau arestio a chadw yn y ddalfa i Awdurdod Cyllid Cymru, a mynegodd rhai o'r ymatebwyr rywfaint o bryder y gallai absenoldeb y pwerau hyn atal Awdurdod Cyllid Cymru rhag cyfweld â phobl sydd dan amheuaeth yn ystod ymchwiliad. Teimlai rhai ymatebwyr hefyd y gallai fod yn briodol i Awdurdod Cyllid Cymru gael pŵer cyffredinol i stopio a chwilio unigolion sydd dan amheuaeth o droseddau treth datganoledig. Fodd bynnag, o ystyried y nifer fach o droseddau treth datganoledig y disgwylir yr ymchwilir iddynt bob blwyddyn, nid ydym ni'n credu ei bod yn gymesur ar hyn o bryd i'r Awdurdod fod â mynediad at bwerau arestio a chadw yn y ddalfa, ac nid ydym yn credu ei bod yn angenrheidiol i'r Awdurdod fod â mynediad at bŵer stopio a chwilio cyffredinol. Ni fydd absenoldeb y pwerau hyn yn atal yr Awdurdod rhag gweithio ochr yn ochr â heddluoedd ychwaith, lle bo angen, na rhag gofyn i bobl sydd dan amheuaeth ddod am gyfweliad o'u gwirfodd.
Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith wrth ystyried y rheoliadau a'r gorchmynion.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Jest i ategu bod y Pwyllgor Cyllid wedi ystyried y rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad heddiw, a hefyd y rheoliadau a wnaethpwyd drwy’r weithdrefn negyddol, sydd yn rhan o’r pecyn, fel y dywedodd arweinydd y tŷ. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn fodlon ar y grymoedd hyn yn cael eu rhoi i Awdurdod Cyllid Cymru, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig tynnu sylw’r Cynulliad cyfan at y ffaith bod y grymoedd yma yn rhai sylweddol iawn. Maen nhw’n rhai pwerus iawn, ac maen nhw yn caniatáu i’r awdurdod cyllid fynd i mewn i eiddo ac i archwilio ymddygiad pobl. Wrth gwrs, mae gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi rymoedd tebyg, ac mae ond yn deg, wrth ddatganoli trethi, ein bod ni hefyd yn datganoli grymoedd yn ymwneud ag unrhyw ymgais i dwyllo cyllid y wlad—y wlad yn y cyd-destun yma, wrth gwrs, yw Cymru. Felly, er ein bod ni’n cytuno ar y rheoliadau, rydym ni hefyd jest yn tynnu sylw’r Cynulliad yn ein hadroddiad ni at y pwerau eang ond pwrpasol hyn.
A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwahanol ddarpariaethau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a Deddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 sydd i'w cymhwyso i ymchwiliadau i droseddau a gynhelir gan Awdurdod Cyllid Cymru, ac maent yn cynnwys cael mynediad i safleoedd o dan amgylchiadau penodedig ac atafaelu eitemau perthnasol.
Dim ond ychydig o bwyntiau yr oedd y pwyllgor am eu codi, mewn gwirionedd. Mae'r rheoliadau yn rhoi pwerau sylweddol i'r Awdurdod, ac roeddem ni o'r farn bod yr esboniad a roddwyd yn rhesymol, ond bod gwerth adrodd ar yr offeryn ar y sail ei fod o bwysigrwydd cyfreithiol neu wleidyddol neu yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad.
Gwnaethom benderfynu yn ein cyfarfod i gynnwys pwynt arall ar gyfer adrodd, sy'n ymwneud ag anghysondeb rhwng y rheoliadau a'r memorandwm esboniadol. Mae'r memorandwm esboniadol yn datgan bod yn rhaid i'r awdurdod cyllid gydymffurfio â chodau ymarfer statudol a wnaed o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, ond ein dealltwriaeth ni yw mai dim ond y cod y mae angen iddyn nhw ei ystyried ac, yn benodol, rhannau perthnasol o'r cod. Mae yna wahaniaeth pwysig rhwng cydymffurfio â rhywbeth a gorfod rhoi sylw iddo. Yn ein hadroddiad felly, gwnaethom ddweud y dylai Llywodraeth Cymru egluro'r sefyllfa ac, os oes angen, sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol sy'n ymwneud â'r rheoliadau yn cael eu cywiro yn unol â hynny.
Cytunaf â sylwadau'r siaradwyr blaenorol. Credaf ei bod yn amlwg yn bwysig fod gan Awdurdod Cyllid Cymru yr un arfau ag sydd ar gael i Gyllid a Thollau EM ar hyn o bryd. Rydym yn awr yn y cyfnod pontio hwnnw cyn rhoi'r trethi newydd ar waith, ac mae hyn yn rhan bwysig o sicrhau bod y gyfundrefn dreth newydd yn cael ei gorfodi'n briodol. Rwy'n hapus i gefnogi'r rheoliadau.
Diolch ichi. A gaf i alw ar arweinydd y tŷ i roi ateb?
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n diolch yn fawr iawn i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth ddeddfu i roi pwerau troseddol i awdurdod cyhoeddus oni fydd hynny'n angenrheidiol ac yn gymesur. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig y dylai fod gan Awdurdod Cyllid Cymru rai o'r pwerau y mae Cyllid a Thollau EM yn eu harfer ar hyn o bryd wrth ymchwilio i droseddau treth yng Nghymru. Mae cyfres o fesurau diogelu â therfynau eglur iddynt gan y pwerau sefydledig hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn gymesur ac yn briodol. Wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, daethpwyd i'r casgliad y dylai fod gan ACC rai o'r pwerau sydd ar gael i Gyllid a Thollau EM ar hyn o bryd, ac felly cynigiaf y rheoliadau yn ffurfiol. Thank you.
Diolch ichi. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Gan hynny, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Byddwn yn symud i'r cyfnod pleidleisio nawr, heb i dri aelod ddymuno i'r gloch gael ei chanu.