Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 20 Mawrth 2018.
Gan adeiladu ar y cynllun gweithredu ar yr economi, rŷm ni’n dynodi ac yn hyrwyddo llwybrau cynnydd o ran gyrfa a chyfleoedd datblygu o fewn sectorau’r economi sylfaenol. Yn rhan o’n nod o gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rŷm ni’n annog cyflogwyr hefyd i gydnabod sgiliau a chyfraniad gweithwyr Cymraeg eu hiaith. Mae cydnabod Cymraeg fel sgìl yn rhywbeth mae'n rhaid inni danlinellu.