– Senedd Cymru am 4:57 pm ar 20 Mawrth 2018.
Symudwn yn awr at ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y cynllun cyflogadwyedd. Galwaf ar Eluned Morgan i gynnig y datganiad. Eluned.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i lansio'r cynllun cyflogadwyedd heddiw, ac a gaf i ddechrau trwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniadau nhw wrth ddatblygu’r cynllun, achos mae'r cynllun yma yn gynllun traws-lywodraethol?
Un o brif gyfrifoldebau Llywodraeth yw addysgu, hyfforddi a pharatoi pobl ar gyfer y byd gwaith. Mae cael gweithlu mwy o faint a mwy cynhwysol yn dda i hybu lefelau cynhyrchiant ein gwlad, ond mae yna hefyd fanteision eraill i weithio. Mae cael gwaith yn codi pobl allan o dlodi ac, yn ôl yr Athro Stephen Hawking, mae gwaith yn rhoi ystyr a phwrpas, a gall bywyd fod yn wag hebddo.
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Cymru yn economi gyflogaeth lawn, uwch-dechnoleg, â chyflogau uchel ynddi. Rydym yn awyddus i fwy o bobl ymuno â'r byd gwaith neu ddychwelyd iddo. Rydym eisiau gweithlu mwy cynhwysol, gyda niferoedd uwch o bobl anabl mewn gwaith, a gostyngiad yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn ogystal â'r bwlch cyflog o ran pobl anabl, pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae angen inni baratoi pobl ar gyfer byd gwaith sy'n newid, sicrhau eu bod yn barod i achub ar gyfleoedd yn sgil awtomeiddio, digideiddio a datgarboneiddio. Ond ni ddylem ffoi oddi wrth yr heriau y mae'r newid hwn yn eu cyflwyno chwaith. Rhagwelir colledion sylweddol o ran swyddi ac amharu ar y farchnad lafur. Felly, rydym yn paratoi ar hyn o bryd, drwy wneud yn siŵr bod cysylltiad agos rhwng ein darpariaeth sgiliau a hyfforddiant â gofynion y farchnad, bod datblygu gyrfa gydol oes yn dod yn ymarfer safonol, bod anghenion busnes yn cael eu clywed a bod ymateb cyflym iddynt. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn cynnull tasglu ar awtomatiaeth i ystyried yr heriau a'r cyfleoedd yn y maes hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i sicrhau bod ein gweithlu yn barod ar gyfer y dyfodol.
Gyda'r cynllun hwn, rydym yn cynnig fframwaith cenedlaethol sy'n pennu cyfeiriad a safonau. Rydym wedi gosod cyfres o nodau ymestynnol ac uchelgeisiol sy'n ymwneud â diweithdra, anweithgarwch economaidd a lefelau sgiliau, oherwydd ein bod yn benderfynol o wneud cynnydd gwirioneddol o ran y pethau hyn o fewn y degawd nesaf. Ond rwy'n ymwybodol na fydd hyn yn hawdd: mae anweithgarwch economaidd a diweithdra aml genhedlaeth yn effeithio ar lawer o gymunedau yng Nghymru, ond bydd ein cymorth unigol wrth law i helpu pobl i fynd i'r afael â'u rhwystrau personol i gyflogaeth.
O dan y fframwaith cenedlaethol hwn, mae lle i hyblygrwydd ar lefel leol a rhanbarthol. Mae gan gymunedau ledled Cymru amrywiol gryfderau ac anghenion. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar lefel ranbarthol i ddwyn ynghyd busnes, darparwyr addysg a hyfforddiant, Llywodraeth Leol a'r trydydd sector, a sicrhau eu bod yn gweithio ar y cyd i ddiwallu anghenion yr ardal.
Gan adeiladu ar y cynllun gweithredu ar yr economi, rŷm ni’n dynodi ac yn hyrwyddo llwybrau cynnydd o ran gyrfa a chyfleoedd datblygu o fewn sectorau’r economi sylfaenol. Yn rhan o’n nod o gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rŷm ni’n annog cyflogwyr hefyd i gydnabod sgiliau a chyfraniad gweithwyr Cymraeg eu hiaith. Mae cydnabod Cymraeg fel sgìl yn rhywbeth mae'n rhaid inni danlinellu.
Ein nod yw cynnig cyfleoedd i greu unigolion cydnerth sy'n meddu ar sgiliau, brwdfrydedd, penderfyniad a chreadigrwydd i wireddu eu potensial, beth bynnag fo'u gallu, eu cefndir, eu rhyw neu ethnigrwydd. Mae'r cynllun hwn yn olwg tymor hwy ar sut y gallwn wireddu'r weledigaeth hon, a byddwn yn cymryd camau mewn pedwar maes allweddol.
Yn gyntaf, byddwn yn darparu cymorth unigol ar gyfer y rhai sydd ei angen. Byddwn yn creu system gymorth sy'n newydd, yn symlach ac yn fwy effeithlon i helpu pobl i gael gwaith. Bydd hyn yn ymatebol i anghenion yr unigolyn a bydd yn haws i'w gael a'i gyfarwyddo i unigolion a'u hymgynghorwyr. Bydd ein porth cyngor cyflogaeth newydd yn gweithredu dull 'nid oes un drws anghywir' a bydd yn bwynt cyswllt cyntaf i bobl nad ydyn nhw mewn gwaith.
Cymru'n Gweithio yw ein rhaglen gyflogadwyedd newydd, a fydd yn cefnogi pobl i gael gwaith drwy gael gwared ar y rhwystrau a chodi lefelau sgiliau. Bydd y rhaglen yn cefnogi'r rheini dros 16 oed sy'n ddi-waith, yn economaidd anweithgar ac nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i gael cyflogaeth barhaol, prentisiaeth, neu i fod yn hunan-gyflogedig. Bydd manylion caffael ar gyfer Cymru'n Gweithio yn cael eu rhyddhau ddiwedd y mis hwn.
Yn ail, rydym yn gofyn i gyflogwyr wneud rhagor i gefnogi eu gweithwyr. Mae gwella sgiliau'r gweithlu yn ganolog i'n nod o gynyddu lefelau cynhyrchiant yng Nghymru. Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i wella sgiliau eu gweithwyr, cefnogi eu staff a darparu gwaith teg. Rydym yn galw ar gyflogwyr i chwarae eu rhan i hyrwyddo gweithleoedd iach a chynhwysol a blaenoriaethu datblygiad sgiliau fel y gall y rhai sydd mewn cyflogaeth ffynnu yn eu gwaith. Rydym yn annog cyflogwyr i weithio gydag undebau a phartneriaid cymdeithasol eraill lle bo'n bosibl i fuddsoddi yn y gweithlu a chynllunio ar gyfer dyfodol hirdymor eu cwmnïau a dyfodol eu staff.
Yn drydydd, byddwn yn ymateb i'r bylchau mewn sgiliau lleol a chenedlaethol. Byddwn yn gosod fframwaith cenedlaethol i flaenoriaethu'r meysydd lle gwelwn dwf posibl a bylchau mewn sgiliau. O bwysigrwydd arbennig mae'r ardaloedd hynny a nodwyd fel blaenoriaethau yn y cynllun gweithredu economaidd, a'r sectorau hynny sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan Brexit. Gan weithio mewn partneriaeth ar sail ranbarthol, byddwn yn sicrhau bod y cymwysterau mewn addysg uwch, addysg bellach ac addysg seiliedig ar waith yn cyfateb i anghenion y busnesau lleol a rhanbarthol.
Ac yn olaf, rydym yn paratoi ar gyfer newid sylfaenol yn y byd gwaith. Bydd yn rhaid i Gymru fod yn barod ar gyfer y dyfodol. Fel cenedl, byddwn yn paratoi heddiw i gwrdd â gofynion sgiliau yfory, felly gallwn reoli potensial llawn y datblygiadau technolegol sy'n dod i'r amlwg. Gwyddom fod cyflymder a natur y newid technolegol yn cynyddu'n sylweddol. Efallai y bydd y sectorau sydd yn draddodiadol wedi gwthio ein heconomi yn crebachu a bydd sectorau newydd yn ymddangos i'w disodli. Rydym eisoes yn diwygio ein system addysg i annog dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n gallu cyfrannu mewn modd creadigol a blaengar i fyd gwaith fel dinasyddion deallus a hyderus. Ond mae'n rhaid inni gefnogi'r gweithlu sy'n heneiddio hefyd, a bydd yn rhaid i'r rheini uwchsgilio a dysgu drwy gydol eu hoes i allu ffynnu mewn cyflogaeth. I gyflawni hyn, rydym yn ystyried cynllun peilot cyfrif dysgu unigol, a fydd yn darparu arian ar gyfer ailhyfforddi mewn sectorau blaenoriaeth. Rydym hefyd yn cydnabod y twf mewn hunangyflogaeth ac yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi'r rhai sy'n sefydlu busnes.
Er hynny, rydym yn byw mewn cyfnod ansefydlog yn wleidyddol. Rydym yn glir ynghylch y dasg o'n blaenau a'r modd y bwriadwn weithredu i gynyddu cyflogaeth a gwneud Cymru yn genedl uwch-dechnoleg, ond gall digwyddiadau annisgwyl ein gwyro oddi wrth y llwybr. Gallai hynny gynnwys ergyd economaidd sylweddol o ganlyniad i fargen masnach wael gyda'r UE neu pe byddai llywodraeth y DU yn torri ei haddewid na fyddai'r Cymry yn waeth eu byd o ganlyniad i Brexit. Cafodd llawer o'n rhaglenni cyflogaeth eu hariannu hyd yn hyn gan yr UE, a byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar drefniadau ariannu'r dyfodol.
Mae’r cynllun yma yn cynnig y weledigaeth hirdymor a’r fframwaith cenedlaethol sydd ei angen ar Gymru i helpu pobl i fyd gwaith heddiw, gan baratoi ar yr un pryd ar gyfer y newidiadau radical yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau ledled Cymru i gyflwyno camau gweithredu sydd yn y cynllun yma.
Diolch. Mohammad Asghar.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd addysg a hyfforddiant wrth roi'r sgiliau sydd eu hangen gan gyflogwyr er mwyn cael swyddi da a chynaliadwy i'r dyfodol.
Mae'r Gweinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfres o dargedau ymestynnol ac uchelgeisiol yn ymwneud â diweithdra, gweithgarwch economaidd a lefelau sgiliau. A gaf i ofyn a fydd y Gweinidog yn cyhoeddi'r targedau hynny ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd yn y Siambr hon ar y cynnydd o ran bodloni'r targedau o fewn yr amserlen ac o leiaf o fewn tair blynedd tymor y Siambr hon?
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod busnesau yng Nghymru yn bryderus o hyd nad yw'r arian a dderbyniwyd gan yr ardoll prentisiaeth wedi ei neilltuo ar gyfer hyfforddiant sgiliau yng Nghymru. Yn Lloegr, mae'r cyflogwyr sy'n talu'r ardoll yn derbyn talebau i wario ar hyfforddiant staff, tra bod cyflogwyr llai yn gymwys i gael cymorth hefyd. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud mai'r sefyllfa ddelfrydol fyddai cael un system ar gyfer defnyddio'r ardoll prentisiaeth ledled y Deyrnas Unedig. Wedi'r cwbl, economi unigol mewn un wlad ydyn ni. A gaf i ofyn: pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno system o dalebau yng Nghymru? Bydd yn rhaid gwrando'n astud ar lais y busnesau o ran sut y caiff yr arian ei wario ar sgiliau a hyfforddiant i sicrhau bod ein gweithlu yn gymwys i'n heconomi i'r dyfodol.
Rwy'n croesawu haeriad y Gweinidog ei bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod cysylltiad agos rhwng ein darpariaeth sgiliau a hyfforddiant a gofynion y farchnad. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgysylltu gyda'r sector busnes i sicrhau y bydd hynny'n cael ei gyflawni? Mae'r Gweinidog yn ymrwymo i ymateb i'r bylchau mewn sgiliau lleol a chenedlaethol. Mae o gwmpas traean o'r holl brentisiaethau ar hyn o bryd yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae angen inni fynd i'r afael â'r prinder sgiliau mewn meysydd fel TGCh, peirianneg ac adeiladu, yn ogystal â gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Daeth pwysigrwydd hyn i'r amlwg yn ddiweddar gan gyhoeddiad Persimmon Homes eu bod yn recriwtio mwy na 700 o weithwyr adeiladu, gan gynnwys seiri coed a bricwyr yn y De. Felly, cyfle rhagorol yw hwnnw i'r sector sgiliau fanteisio ar y cyfle rhagorol hwn. Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Cymru yn amcangyfrif y bydd angen mwy na 5,000 o bobl dros y flwyddyn i ddarparu'r gweithlu i wireddu ei ddyhead presennol ar gyfer y pum mlynedd nesaf i ganiatáu i gontractwyr gyflogi ac uwchsgilio'r gweithlu sydd ei angen.
Gweinidog, pa bwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ddarparu sgiliau a hyfforddiant yn y sector hwn i sicrhau bod digon o weithwyr medrus o Gymru ar gael i fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfleoedd yn y dyfodol sydd yn cael eu rhoi gan y busnesau hyn?
Dywed y Gweinidog hefyd y bydd yn rhoi cymorth unigol i'r rhai sydd ei angen, felly a gaf i holi hefyd am bwnc y cymorth ariannol gyda chostau byw ar gyfer prentisiaid? Beth yw eich barn chi am hynny? Ceir tystiolaeth sylweddol bod rhwystrau ariannol, fel costau trafnidiaeth, yn ddigalon ac, mewn rhai achosion, yn atal pobl ifanc rhag manteisio ar brentisiaethau. Pryd fydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ymateb i argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y dylai prentisiaethau gael yr un cymorth ariannol gyda chostau byw â myfyrwyr prifysgol ledled y wlad?
I gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i hefyd ofyn i'r Gweinidog—. Pobl ifanc, pobl anabl a phobl hŷn, mae'r sector sgiliau sector ychydig yn ddiffygiol yn y fan honno, a hefyd yng nghymuned y lluoedd arfog yn y wlad hon. Felly, beth yw cymhelliad y Llywodraeth o ran hynny—neu'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd i wneud yn siŵr nad ydyn nhw ar ei hôl hi? Pobl anabl, menywod.
A'r bwlch cyflog: maes yr ydym wedi clywed amdano'n ddiweddar iawn. Rwy'n gwybod, wyddoch chi, fod Mr McEnroe yn chwaraewr tennis gwych. Ei gyflog ef a Marina Navratilova: mae hi'n cael 10 y cant yn unig—£15,000 a bwlch o £150,000 yn yr hyn y mae'r cyfryngau yn y wlad hon yn ei dalu i'r bobl hyn. Menywod—.
[Anghlywadwy.]—cynllunio yng Nghymru, felly—.
Yr hyn yr wy'n ei ddweud yw bod yna fwlch mewn gwahanol feysydd yn y sector preifat—preifat ddywedaf i. Felly, a oes unrhyw gymhelliad yn y Llywodraeth hon—? Dylid annog y sector preifat i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector cyflog. Dyna yw fy mhwynt i. Ni ddylai pethau fod fel hynny, y bwlch mawr rhwng dynion a menywod: yr un gwaith y maen nhw'n ei wneud, ond nid yw'r cyflog yr un faint. Byddwn yn ddiolchgar. Diolch ichi.
Diolch ichi, Mohammad. Credaf fod rhai o'r targedau wedi cael eu nodi yn y ddogfen, felly gallwch fod yn sicr o'r llwybr a ddilynir yn y fan honno. Byddaf yn ceisio sicrhau mwy o fanylder; rwy'n credu ei bod yn bwysig inni edrych ar yr effaith ranbarthol, a sut olwg sydd ar bethau yn rhanbarthol, felly byddwn yn monitro hyn mewn ffordd gydlynol iawn. Ond byddwn yn gwneud hynny mewn modd systematig dros gyfnod hir o amser. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi yn fy nal i gyfrif yn hyn o beth oherwydd bydd yn bwysig i mi i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni. Ac un o'r pethau y byddwn yn ei wneud yw sicrhau ein bod yn tynnu ynghyd yr holl wahanol sefydliadau mawr sy'n gweithio yn y maes hwn. Rydym eisoes wedi siarad â'r Adran Gwaith a Phensiynau fel nad ydym ni i gyd yn mynd ar ôl yr un rhai a allent fod yn economaidd anweithgar; ein bod ni'n cydgysylltu ein hymdrechion.
Yr ardoll prentisiaeth: wel, oni fyddai wedi bod yn hyfryd pe byddai Llywodraeth y DU wedi ymgynghori â ni mewn gwirionedd cyn iddyn nhw ei gyflwyno? Dyna ran o'r broblem. Cafodd hyn ei orfodi arnom ni, ac rydym bellach yn gorfod gweithio gyda'r system sydd gyda ni. Nid wyf i'n siŵr a fyddwn i'n hyrwyddo'r system talebau yn Lloegr pe byddwn yn eich lle chi. Bu cwymp enfawr yn nifer y prentisiaethau yn Lloegr yn ystod y misoedd diwethaf, felly nid wyf yn sicr mai hwnnw yw'r patrwm sydd angen inni ei ddilyn, ond yr hyn na fyddwn ni'n cyfaddawdu arno yw ansawdd y prentisiaethau yng Nghymru.
Ar y sector adeiladu: rydym ni wedi bod yn gwneud llawer o waith yn y sector hwn. Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn edrych yn fanwl ar hyn: beth mae'r cyflogwyr yn edrych amdano? Beth yw'r safonau a'r rhinweddau y maen nhw'n chwilio amdanynt? Ac maen nhw wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, ond un o'r pethau y byddwn ni'n ei ofyn yw bod sefydliadau addysg bellach yn ymateb. Rydym yn gofyn iddyn nhw ymateb i'r bartneriaeth sgiliau ranbarthol. Felly, yr hyn sydd gennym ni nawr yw'r cyflogwyr hyn i gyd yn dweud wrthym beth sydd ei angen arnyn nhw. Mae angen inni wneud yn siŵr nawr bod hynny'n cael ei drosglwyddo a'i egluro i'r colegau addysg bellach a'u bod yna yn ymateb i hynny, fel y gallwn roi i'r cyflogwyr hynny y sgiliau y maen nhw'n chwilio amdanynt.
Ac i gloi, o ran pobl anabl yn benodol: mae llawer o waith gennym ni eto i'w wneud yn y maes hwn. Dim ond 49 y cant o bobl anabl yng Nghymru sydd yn gweithio. Mae gennym ni lawer o waith i'w wneud yn hyn o beth. Mae'n ddiddorol iawn: pan fyddwch yn gofyn i gyflogwyr helpu, mae llawer ohonynt yn barod i wneud hynny, ac mae llawer o gefnogaeth y gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ei roi hefyd. Felly, byddwn yn gwneud llawer mwy o waith yn y maes penodol hwnnw, gallaf eich sicrhau chi.
Rydw i yn credu bod yn rhaid cymeradwyo'r Llywodraeth o ran yr uchelgais sydd yn cael ei gosod mas gyda'r targedau. Mae rhai ohonyn nhw'n bell-gyrhaeddol iawn: hynny yw, cau'r bwlch o ran sgiliau, o ran y gwahanol lefelau cymhwyster rhwng Cymru a’r Deyrnas Gyfunol dros gyfnod o ddegawd. Mae hynny’n uchelgeisiol, ond a gawn ni glywed beth yw’r adnodd sydd yn cael ei glustnodi ar gyfer cwrdd â rhai o’r targedau yma? Dim ond ychydig o sôn am gynnydd mewn cyllid sydd yna ar gyfer y rhaglenni, a dweud y gwir, felly, a ydy’r Gweinidog yn gallu rhoi syniad inni o ran y buddsoddiad sydd yn sail i’r cynllun?
A all y Gweinidog hefyd esbonio’r rhesymeg dros ailgyflwyno cyfrifon dysgu unigol? Hen bolisi, wrth gwrs, a oedd wedi cael ei ddiddymu gan Lywodraeth Cymru saith mlynedd yn ôl, nad oedd yn cael ei weld fel llwyddiant mawr, a dweud y gwir. Yn Lloegr, wrth gwrs, roedd wedi cael ei ddiddymu oherwydd yr oedd wedi achosi un o’r achosion o dwyll ariannol mwyaf erioed. Felly, byddai deall rhesymeg y Llywodraeth efallai’n help fanna.
O ran y sector dysgu oedolion yn y gymuned, roedd rhagflaenydd y Gweinidog wedi rhoi datganiad polisi nôl yn yr haf. Oherwydd ei fod yn sector sydd wedi gweld erydu yn ei ariannu yn eithaf dybryd dros gyfnod o amser, roeddem wedi cael addewid y byddai yna gyllido newydd, ac y byddai strwythur newydd a chynllun newydd. A ydy’r Gweinidog yn gallu sôn am hynny yng nghyswllt y cynllun y mae hi wedi’i gyflwyno?
O ran y ffocws yma ar ddynesiad wedi’i deilwra at yr unigolyn, rwy’n credu bod yna lawer o rinwedd yn hynny, ond a fyddai hynny'n gallu cael ei ymestyn, er enghraifft, i dracio cynnydd unigolion ar ôl iddynt adael addysg ffurfiol? Er enghraifft, y math o waith tracio sydd wedi cael ei wneud yn llwyddiannus iawn yng Ngheredigion, a chysylltu hynny gydag un syniad, wrth gwrs, o sut i gau bylchau sgiliau Cymru, sef denu myfyrwyr yn ôl sydd wedi gadael Cymru, wedi astudio yn Lloegr, a cheisio'u denu nhw yn ôl, fel mae ein plaid ni wedi bod yn pwysleisio ers talwm.
Yn olaf, wedi hynny, roedd cyfeiriad at yr angen am sgiliau Cymraeg yn eich cyflwyniad chi. Wrth gwrs, rŷm wedi gweld tystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg, y ffigwr arbennig o isel o ran prentisiaethau, er enghraifft, sydd yn cael eu cynnig yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg—0.3 y cant, rwy’n credu, oedd y ffigwr roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi'i gyflwyno. A allwn ni gael targed ar gyfer darpariaeth, yn sicr o ran y ddarpariaeth alwedigaethol sydd yn isel iawn ar hyn o bryd, ac o ran prentisiaethau, fel ei bod yn gallu cyfrannu nid yn unig at y polisi o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ond hefyd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i fedru cyrraedd eu potensial o ran eu sgiliau nhw hefyd?
Diolch yn fawr. Wel, yn gyntaf i gyd, rwy’n falch eich bod chi’n cydnabod bod hwn yn uchelgeisiol achos mae e, ond rwy’n meddwl dylem fod yn uchelgeisiol. Rwy’n meddwl dylem fod yn glir ynglŷn â ble rŷm ni eisiau cyrraedd. Nid ydym yn mynd i wneud hyn dros nos, ond beth oedd yn really bwysig i fi oedd ein bod ni’n hollol glir o ran ble roeddwn i eisiau cyrraedd a’n bod ni’n cael camau mewn lle er mwyn cyrraedd y pwynt yna.
Felly, sut ydym yn mynd i gyrraedd y lefelau yna? Wel, os ydych chi’n meddwl am rywbeth fel cyrraedd lefel 4 o ran sgiliau, er enghraifft, rydym tua 50,000 o bobl y tu ôl i ble dylem ni fod o gymharu â Lloegr. Wel, mae 100,000 o brentisiaethau gyda ni, ac un o’r pethau rydym yn ei wneud yw trio gwthio pobl i fyny'r llwybr sgiliau fel bod mwy o bobl yn gwneud prentisiaethau lefel 3, 4 a 5, a llai, efallai, ar y lefelau isel. Felly, y lefelau isel, rŷm ni’n cyrraedd mwy neu lai'r un targed â Lloegr, so mae eisiau inni wthio pethau i fyny, a dyna beth rŷm yn ei wneud yn barod. So, rŷm ni ar y trywydd iawn, rwy’n meddwl, gyda hynny.
Gyda’r learning accounts, rwy’n ymwybodol bod hwn wedi cael ei wneud yn y gorffennol. Rwy’n meddwl bod yn rhaid inni gael rhyw fath o ymateb ymarferol i’r ffaith bod automation yn mynd i ddigwydd a bod yn rhaid inni gael rhywbeth i bobl sydd eisoes mewn gwaith. Sut ydym yn mynd i’w sgilio nhw a rhoi sgiliau iddyn nhw, a rhoi cyfle iddyn nhw i symud ymlaen? Felly, mae pethau wedi newid. Bydd dim arian yn newid dwylo yn y ffordd roedd e yn y gorffennol—mae pethau wedi'u digideiddio, gallwch wneud pethau’n wahanol—a dyna pam rŷm ni eisiau treial peilot allan a gweld beth sydd yn bosib yn y maes yna, cyn i ni weld os dylem ehangu hynny dros Gymru gyfan. Rŷm ni'n aros am yr adroddiad ar adult learning a beth y dylem ei wneud yn y maes yna, ond rydw i'n ymwybodol iawn bod angen inni wneud gwaith yn y maes yna. Wrth gwrs, rwy'n gobeithio bydd y learning accounts yma’n bwydo i mewn i hynny.
O ran tracio unigolion, beth rŷm ni’n ei wneud fan hyn yw tracio unigolion sy’n ddi-waith. So, cawn ni ddechrau yn fanna. Un o’r pethau nad ydym yn mynd i'w wneud unwaith inni roi gwaith iddyn nhw, yw gadael iddyn nhw i fynd, achos rŷm ni’n gwybod, yn arbennig gyda phobl sydd â lefelau isel, wrth iddyn nhw fynd i mewn i waith am y tro cyntaf, maen nhw’n tueddu i gwympo allan. Felly, byddwn ni’n eu tracio nhw am o leiaf chwe mis i sicrhau ein bod ni’n eu cadw nhw mewn gwaith ac yn rhoi’r cymorth iddyn nhw. Achos, dyna un o’r problemau: ni allwn jest gadael iddyn nhw fynd y foment y maen nhw yn y gweithle. Mae gan rai o’r bobl hyn anghenion eithaf dyrys ac mae’n rhaid inni fod yna iddyn nhw yn ystod y cyfnod yna.
O ran prentisiaethau, mae mwy o brentisiaethau yn y Gymraeg. Mae’r Urdd yn gwneud lot fawr ohonyn nhw, ond rydw i’n meddwl bod hwn yn faes efallai y dylem ni edrych i mewn iddo, felly a gaf i ystyried a yw hwn efallai'n rhywbeth y bydd yn rhaid inni feddwl amdano?
Rwy'n croesawu uchelgais y cynllun yn gynnes iawn, ac fel y gwnaeth y Gweinidog ei gydnabod, mae'n bwysig inni gael camau mesuradwy fel y gellir olrhain cynnydd dros amser. Felly, dau gwestiwn yn unig sydd gennyf i. Hoffwn longyfarch y Gweinidog ar gyhoeddi targedau; rwy'n credu bod hynny'n bwysig ar gyfer atebolrwydd. Rwyf ychydig yn bryderus nad ydynt yn dargedau campus, a bod pedwar o'r chwe tharged, mewn gwirionedd, yn dargedau ar gyfer gosod targedau eraill. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn barod i weithio gyda phwyllgor yr economi i fireinio'r targedau i weld a allwn ni eu gwneud yn fwy campus?
Ac, yn ail, ar fater sgiliau i'r dyfodol, fel y nodwyd gennych yn gywir yn eich datganiad, rydym wedi trafod yma o'r blaen nad yw'r sgiliau digidol a roddir i ysgolion yn digwydd yn ddigon cyflym. Rydych yn iawn i ddweud mai dichon y gall cwricwlwm Donaldson wneud hynny, ond mae'r gweithgarwch a gynllunnir ar hyn o bryd yn llawer rhy gymedrol. Dangosodd adroddiad Estyn yn ddiweddar mai lefelau annigonol o sgiliau digidol sy'n cael eu dysgu yn nwy ran o dair o'r holl ysgolion cynradd. Felly, a allwch chi wneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn deall hynny ac yn bachu ar y cyfle a bod yr agenda honno'n cael ei chyflwyno'n gyflymach ac yn ehangach i gyflawni amcanion eich cynllun? Diolch.
O ran targedau, rwy'n ymwybodol iawn mai'r hyn sydd gennym ni yma yw'r prif dargedau a byddaf yn gweithio gyda swyddogion i wneud yn siŵr ein bod yn cael targedau mwy penodol a'n bod yn eu torri i lawr, fel na fyddwn yn dod ar eu traws yn sydyn 10 mlynedd o nawr.
Mae credu ei bod yn werth inni nodi, mewn gwirionedd, na allwn gyflawni hyn i gyd ar ein pennau ein hunain. Felly, os aiff yr hwch drwy'r siop gyda'r economi yn sydyn, yna bydd hynny'n effeithio ar yr hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud. Mae'n rhaid inni fod yn sensitif felly. Mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gyfrifoldeb enfawr hefyd i gymryd camau yn y maes hwn. Felly, mae gweithio gyda nhw a gwneud yn siŵr nad ydym ni i gyd yn mynd ar ôl yr un bobl, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Ond rydym yn gwybod, fwy neu lai, faint o bobl sydd â diddordeb, hyd yn oed y rhai sy'n economaidd anweithgar, a fyddai'n hoffi ymuno â gweithle. Mae angen inni, yn syml, dorri hynny i lawr, nid yn unig ar sail Cymru yn unig; gallem wneud hynny ar sail ranbarthol, ar sail awdurdod lleol. Yn wir, gallwn ddechrau arni, yn fy marn i, a rhoi cyfrifoldebau ar bobl i gyflawni'r targedau hynny.
O ran sgiliau i'r dyfodol, o ran digidol, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ymwybodol iawn, rwy'n credu, o bwysigrwydd sgiliau digidol. Roedd yn gwbl ganolog i argymhellion Donaldson. Gwn ei bod yn cadw llygad ar hynny. Nid wyf i'n meddwl ein bod am eiliad wedi tynnu ein llygaid oddi ar y bêl honno, ond ceir cydnabyddiaeth bod angen mawr inni feistroli hyn os ydym eisiau bod yn wir ddylanwadol yn yr economi fyd-eang.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn fynd ar drywydd ychydig o bwyntiau o'r cynllun cyflogadwyedd ei hun. Yn gyntaf, rwy'n croesawu creu'r porth cyngor ar gyflogaeth. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol cael cyngor a chymorth gan rywun sydd ag arbenigedd gydag ennyn sgiliau a phrofiad y sawl sy'n ceisio am waith, ac sydd â gwybodaeth i lywio ceiswyr gwaith drwy'r myrdd o gyrsiau a hyfforddiant sydd ar gael.
Un cwestiwn yr hoffwn ei ofyn, serch hynny, yw: i bwy fydd hyn ar gael? A fydd ar gael i bobl ifanc NEET a di-waith yn unig, neu a fydd ar gael i'r rheini sydd mewn gwaith sy'n awyddus i wella eu sgiliau? Rwy'n gobeithio eich bod chi'n mynd i ddweud yr olaf. Nid yn unig y mae angen inni gael pobl yn ôl i'r gwaith; mae angen inni helpu pobl sydd eisoes yn gweithio i ennill a chadw mwy o'u harian eu hunain hefyd. Methiant rhai o'r cynlluniau blaenorol ar gyfer pobl ddi-waith i ddychwelyd i'r gwaith oedd mai'r bwriad oedd eu bod yn dechrau rhoi cymorth rai misoedd i mewn i'r cyfnod o ddiweithdra. Yn amlwg, po hwyaf y bydd rhywun yn ddi-waith, y mwyaf anodd yw dod o hyd i gyflogaeth, felly mae'n bwysig iawn gan hynny fod y cyngor a'r cymorth ar gael o'r dechrau'n deg, a phe byddai'r Gweinidog yn egluro hynny i mi, byddwn yn ddiolchgar tu hwnt.
Gan droi at Gymru'n Gweithio, eto, mae gan y rhaglen hon amcanion canmoladwy ac rwy'n gobeithio y bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn gweithio yn y ffordd y cafodd ei fwriadu. Eto i gyd, sut rydych yn bwriadu sicrhau na fydd gosod pobl mewn addysg a hyfforddiant yn cael ei ddefnyddio i guddio'r ffigurau diweithdra, a methiant y Llywodraeth i ddarparu amgylchedd busnes sy'n ffafriol i greu swyddi? Mae gwella cyflogadwyedd yn gorfod gweithio ochr yn ochr ag annog buddsoddiad gan y BBaChau hynny y mae'r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn dibynnu arnyn nhw am eu cyflogaeth. Felly, mae'n achos pryder i mi eich bod yn ystyried rhoi mwy o rwymedigaethau ar gyflogwyr.
Mae annog cyflogwyr i ofalu am les ac iechyd eu gweithwyr yn gais berffaith resymol a chanmoladwy, ac, wrth gwrs, mae cyflogwyr eisoes yn rhwymedig i sicrhau iechyd a diogelwch eu cyflogeion a'u gweithwyr. Er hynny, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn ofalus iawn nad yw gosod rhwymedigaethau ar gyflogwyr yn achosi gostyngiad yn anfwriadol i lefel cyflogaeth yn gyffredinol, oherwydd, yn amlwg, po fwyaf fo'r gost o gyflogi rhywun, lleiaf fydd y niferoedd a gaiff eu cyflogi. Felly, pa ddadansoddiad cost a budd fyddwch chi'n ei gynnal i sicrhau na fydd unrhyw rwymedigaethau newydd a roddwch ar gyflogwyr yn arwain at gynyddu costau cyflogaeth a thrwy hynny leihad yn lefelau cyflogaeth? Diolch.
I fod yn glir, caiff y porth cyngor cyflogaeth ei anelu at bobl economaidd anweithgar, di-waith a NEETs, ond mae Gyrfa Cymru ar gael i bawb, a'r un sefydliad ydyw. Felly, mae'r Cyngor, a'r posibilrwydd o fynd at Gyrfa Cymru am gyngor yn bodoli ac mae ar gael i unigolion ar hyn o bryd. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd yw ein bod yn edrych ar dlodi mewn gwaith. Mae honno'n broblem enfawr sydd gennym ni heddiw: tlodi mewn gwaith. Rydych chi'n hollol gywir, ni allwn adael hyn yn unig i bobl sydd eisoes yn ddi-waith. Rhaid inni annog pobl i wella'u sgiliau a gwella'r math o gyflogaeth sydd ganddynt, fel y gallant gael cyflogau gwell a dod allan o'r tlodi hwnnw. Felly, dyna'r hyn yr ydym ni'n gobeithio fydd yn digwydd yn sgil y rhaglen hon.
O ran y canolbwyntio ar gyflogwyr, credaf ei bod yn rhaid inni danlinellu nad ydym yn gwneud hyn i'w cosbi nhw, rydym yn gwneud hyn fel y gallan nhw helpu eu hunain. Os byddant yn buddsoddi yn eu pobl eu hunain, yn eu gweithlu eu hunain, yna byddant yn fwy tebygol o elwa. Felly, yr hyn sy'n glir yw, os edrychwch chi ar reoli yng Nghymru, er enghraifft, mae llawer o waith i'w wneud mewn rhai meysydd i wella sgiliau pobl o ran rheoli a'r holl feysydd eraill. Felly, bydd eu cael nhw i wella sgiliau a galluoedd eu gweithluoedd eu hunain yn gwella eu cynhyrchiant nhw eu hunain ac, weithiau, os mai cyflogwyr sector preifat ydyn nhw, yn gwneud mwy o elw iddyn nhw. Felly, rydym yn gwybod bod hynny'n wir.
Fel y gwnaeth eraill, a gaf i ddiolch yn fawr ichi am gyflwyno'r datganiad? Yn amlwg, mae'n ymdrin â nifer o faterion hollbwysig sy'n hanfodol ar gyfer dyfodol economïau lleol ledled y wlad gyfan. Ond hoffwn godi dau fater penodol. Mae un yn sylfaenol ac yn ymarferol iawn ac nid yw o angenrheidrwydd yn perthyn i'ch portffolio chi, felly pe byddech yn amyneddgar â mi, oherwydd rydych mewn gwirionedd yn sôn am hyn yn y cynllun, ac mae hynny'n ymwneud â galluogi pobl i deithio i'w cyfleoedd hyfforddi a'u cyfleoedd am waith, ac mae hynny'n gwbl sylfaenol. Os nad oes gennych eich cludiant eich hun ac os nad yw'r gwasanaethau bws lleol yn ddibynadwy, yna mae hynny'n amlwg yn elfen bwysig iawn o unrhyw gynllun cyflogadwyedd. Eto, ar hyn o bryd, er enghraifft, rwy'n ymdrin â chwynion yn fy etholaeth i am wasanaethau bysiau lleol sydd yn gadael cymunedau wedi eu hynysu ar adegau hanfodol i gymudwyr yn y bore a fin nos, ac ni wnaiff y system bresennol o reoleiddio bysiau—neu yn hytrach, ddadreoleiddio—sy'n caniatáu i hyn ddigwydd, 'mo'r tro. Felly, a fyddech yn cytuno os nad awn i'r afael â mater trafnidiaeth gyhoeddus sy'n ddibynadwy, yna byddwn yn methu â chefnogi llawer o'r rhai sydd yn ceisio cael hyfforddiant a gwaith, ac mae angen gwneud darn arwyddocaol o waith traws-lywodraethol o safbwynt eich cynllun chi a'r angen i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus leol ddibynadwy?
Yn ail, a gaf i groesawu'r gydnabyddiaeth yn y cynllun o werth y gwaith a wneir gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, neu drwy'r Gronfa Ddysgu Undebau Cymru? Ac rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu'r llwyddiant a ddaeth yn sgil y rhaglen i lawer o'n gweithleoedd, gan helpu i ddatblygu cyflogadwyedd a sgiliau hanfodol y gweithlu—mewn nifer o achosion, gan roi'r sgiliau llythrennedd a rhifedd mwyaf sylfaenol i bobl a adawodd yr ysgol hebddynt mewn gwirionedd. Ac a gaf i ofyn am sicrwydd gennych chi y bydd hyn yn parhau i fod yn nodwedd allweddol o unrhyw gynllun cyflogadwyedd?
Mae'n werth pwysleisio bod y rhaglen hon yn rhaglen traws-lywodraethol, felly mae hi wedi'i negodi a'i thrafod ar draws y Llywodraeth gyfan, felly dyna pam y mae cymaint o ffactorau gwahanol ynddi, ac mae'r mater hwnnw ynghylch trafnidiaeth wedi cael ei danlinellu fwy nag unwaith fel nodwedd allweddol sy'n atal pobl, mewn gwirionedd, rhag cyrraedd y gweithle. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Tasglu'r Cymoedd wedi'i drafod yn ddiweddar, ac mae awydd gwirioneddol, yn arbennig, rwy'n credu, yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, i gydnabod yn benodol, yn rhai o'r ardaloedd hynny yn y Cymoedd, rhai o'r ardaloedd gwledig, bod hon yn elfen y mae angen rhoi sylw iddi. Felly, rydym ni'n siarad â'r Adran Gwaith a Phensiynau i weld beth allwn ni ei wneud yn y fan honno, ond rwy'n derbyn yn llwyr fod hynny'n broblem wirioneddol, pa beth bynnag, mewn gwirionedd, yr ydych chi'n ei roi ar waith o ran cludiant cyhoeddus, mae'n bosibl bod angen inni fod ychydig yn fwy creadigol na hynny.
O ran Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, yn sicr. Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth wirioneddol bod weithiau—. Rwy'n credu mai chi, Dawn, a ddywedodd wrthyf nad yw cyflogeion, weithiau, eisiau mynd at eu cyflogwyr i gyfaddef eu bod nhw'n ddiffygiol mewn rhai sgiliau penodol, ac mae gallu mynd at eich cynrychiolwyr undeb a dweud, 'A dweud y gwir, a allwch chi fy helpu i yn y fan yma?' yn gymorth gwirioneddol, nid dim ond i'r unigolion hynny, ond yn y pen draw, i'r busnesau eu hunain hefyd. Felly, roeddwn i'n falch iawn o roi ambell i wobr i bobl sy'n cymryd rhan yn rhaglen Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yr wythnos diwethaf.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.