Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 21 Mawrth 2018.
Credaf ei bod yn eithaf amlwg ei fod yn fater amgylcheddol difrifol, ac mae'n parhau i fod. Felly, efallai y gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni a gollwyd cyfle, wrth edrych yn ôl, i fynd ati'n gynnar i ymdrin ag effeithiau amgylcheddol yr hyn a ddigwyddodd. A pha wersi a ddysgwyd, o ran sicrhau, os oes anghytundeb ynglŷn â phwy ddylai gymryd yr awenau, y gall Llywodraeth Cymru gamu i’r adwy, neu eich cyrff perthnasol?
Yn ail, gan edrych tua’r dyfodol, gan fod hynny'n allweddol bellach, mae arnom angen sicrwydd ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd. Rwyf wedi clywed adroddiadau y bore yma am bobl sy'n ymwneud â'r môr yn dychwelyd i Gaergybi am y tro cyntaf ers y digwyddiadau, ac yn synnu at yr hyn nad yw wedi digwydd hyd yn hyn. Mae arnom angen sicrwydd ynglŷn â'r gwaith o ailadeiladu'r marina, ynglŷn â chymorth i unigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt, ac wrth gwrs, ynglŷn â'r angen i gynyddu ymdrechion mewn perthynas â’r gwaith glanhau amgylcheddol, gan fod llawer ar ôl i'w wneud. A allwch roi'r sicrwydd hwnnw inni heddiw, gan fod hon yn dal i fod yn sefyllfa anobeithiol yng Nghaergybi?