Mercher, 21 Mawrth 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a'r cwestiwn cyntaf, Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwaith clirio ar ôl storm Emma ym mhorthladd Caergybi? OAQ51938
2. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i leihau'r lefelau o wastraff plastig yng Nghymru? OAQ51946
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i'r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella'r system gynllunio yng Nghymru? OAQ51919
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid yng Nghymru? OAQ51922
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses asesiadau effaith amgylcheddol sy'n berthnasol i losgydd biomas Barri? OAQ51932
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at reoli afonydd? OAQ51940
7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid yng Nghymru? OAQ51925
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r cynnydd sydyn mewn achosion o glefyd pydredd Alabama? OAQ51937
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hybu ynni adnewyddadwy? OAQ51941
Yr eitem nesaf, felly, yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. A’r cwestiwn cyntaf, Leanne Wood.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n helpu cyn-filwyr yn dychwelyd i fywyd sifil? OAQ51936
2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wella gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ51921
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Janet Finch-Saunders.
3. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r newidiadau i fudd-daliadau oedran gweithio a chyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen? OAQ51933
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y setliad llywodraeth leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro? OAQ51952
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth ariannol a roddir i gynghorau lleol i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn? OAQ51928
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu eglurder ynglŷn â strwythur llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ51934
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl mentrau cymdeithasol yng nghynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol? OAQ51948
8. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch darparu gwasanaethau cymorth i garcharorion o Gymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau? OAQ51930
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, a'r cwestiwn cyntaf, Mick Antoniw.
1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am oblygiadau adroddiad y Comisiwn Hapchwarae ar hapchwarae yng Nghymru? 156
2. Yn sgil y cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU i gynyddu cyflogau dros filiwn o staff y GIG yn Lloegr, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer...
Symudwn ymlaen at eitem 4, sef y datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf yr wythnos hon, David Melding.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig. Simon Thomas.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar drafnidiaeth gymunedol, a galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Mae eitem 7 wedi'i gohirio tan 18 Ebrill, felly symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio.
Iawn, felly symudwn at bleidlais ar egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais....
Nid oes unrhyw gynnig wedi'i gyflwyno ar gyfer eitem 9, felly, cyn inni symud at ddadl Cyfnod 3 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), gohiriaf y trafodion am 15 munud. Cenir y...
Rŷm ni nawr yn cyrraedd Cyfnod 3 o’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru).
Ac felly mae’r grŵp cyntaf o welliannau i’w hystyried yn ymwneud ag egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol. Gwelliant 9 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y...
Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp sydd yn ymwneud â dyletswydd i adrodd ar gydsyniad Gweinidogion Cymru—adrannau 14 a 15. Gwelliant 3 yw'r prif welliant a'r unig welliant...
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 3, sy'n ymwneud â diddymu'r Ddeddf. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i'n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant ac...
Y grŵp nesaf a'r grŵp olaf o welliannau yw grŵp 4, sy'n ymwneud â gweithdrefnau—gwelliant technegol. Gwelliant 7 yw'r prif welliant a'r unig welliant, ac rydw i'n galw...
Yr eitem nesaf, felly, ar yr agenda yw Cyfnod 4 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y cynnig—Julie James.
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i gyn-filwyr yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid dros y 12 mis nesaf?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu tai cymdeithasol yn Nhorfaen?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau sbwriel yn ein cymunedau?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia