Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 21 Mawrth 2018.
Dengys y data diweddaraf gan Raglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau mai 75 y cant oedd cyfradd gasglu awdurdodau lleol Cymru o boteli plastig i’w hailgylchu o aelwydydd yn 2015, i fyny o 55 y cant yn 2009. Rydym wedi comisiynu ymgynghorwyr i gynnal astudiaeth i archwilio potensial cynlluniau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a fydd yn cynnwys dadansoddiad o gynlluniau dychwelyd ernes.