Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 21 Mawrth 2018.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n llygad ei le; mae hwn yn un o faterion pwysicaf ein hoes, ac mae mynd i'r afael ag ansawdd aer, fel yr eglurais cyn y Nadolig, yn flaenoriaeth i mi yn y rôl hon. Rydych yn gwybod am ein hymrwymiad i ymgynghori ar y fframwaith parth aer glân, a bydd hyn yn cyd-fynd â chynllun ansawdd aer y DU. Ond y syniad yw y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn erbyn diwedd mis Ebrill, gyda'r bwriad o gynhyrchu dogfen ddiwedd mis Gorffennaf. Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio ar draws y Llywodraeth, yn enwedig—. Er yr ystyrir mai mater amgylcheddol yw hwn, mewn gwirionedd, fel y dywedwch, mae'n llawer ehangach na hynny. Mae'n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n effeithio ar ein hiechyd a'n lles. Ac mae llawer o'r dulliau sydd gennym yng Nghymru i fynd i'r afael ag ansawdd aer yn drawslywodraethol—felly trafnidiaeth, awdurdodau lleol ac iechyd, wrth gwrs.