Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 21 Mawrth 2018.
Mae'r Aelod yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn yn ymwneud ag effaith trafnidiaeth, yn enwedig yn ein hardaloedd trefol. Credaf imi sylwi, yr wythnos hon, fod cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi diwrnod di-gar eto eleni ym mis Mai, ac rwyf wedi cyfarfod â chyngor Caerdydd yn benodol i drafod y parth aer glân ar gyfer Caerdydd, a sut y gallwn fynd i'r afael â thagfeydd yn rhan o hynny. Dyna pam fy mod hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ar sut rydym yn ymdrin â phwysau allyriadau ac ansawdd aer ein cefnffyrdd. Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu dull trawslywodraethol a strwythuredig o fynd i'r afael â'r mater hwn, ac mae ansawdd aer yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb'.