Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 21 Mawrth 2018.
Credaf y bydd yn rhaid i mi droi at y Saesneg yn awr. Mewn perthynas ag ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfyngiadau o ran afonydd eogiaid yng Nghymru a'r ymgynghoriad yn 2017, clywais yr hyn a ddywedoch ynglŷn ag ysgrifennu at fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, byddaf yn cysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch yr argymhellion rydym yn aros amdanynt, ac os nad oes ots gan yr Aelod, byddaf yn ymateb yn ysgrifenedig i chi cyn gynted â phosibl i roi gwybodaeth bellach am hynny.FootnoteLink