Lles Anifeiliaid

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:17, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wyddoch fod 80,000 o gŵn bach yn y DU yn cael eu gwerthu drwy werthwyr trydydd parti, gydag effeithiau negyddol sylweddol ar eu hiechyd, eu lles a'u hymddygiad. Rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn ymwybodol o'r gefnogaeth gynyddol i gyfraith Lucy i wahardd gwerthiannau trydydd parti, gan gynnwys drwy elusennau anifeiliaid fel Friends of Animals Wales a'u cyllidwr ysbrydoledig, fy etholwr, Eileen Jones. Tra bo Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ceisio dal i fyny gyda'r cynnydd a wnaed eisoes yma yng Nghymru mewn perthynas â bridio cŵn, sut y gall Llywodraeth Cymru ymateb i ymgyrch cyfraith Lucy i sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran lles anifeiliaid anwes?