Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 21 Mawrth 2018.
Mae'r cynlluniau rheoli basn afonydd, a gyhoeddwyd yn 2015, yn cynnwys asesiadau manwl o holl afonydd Cymru, a hefyd y mesurau rydym yn bwriadu eu cyflwyno er mwyn gwella eu hansawdd. Ar hyn o bryd, mae 37 y cant o'n hafonydd yn cyflawni statws da o dan y gyfarwyddeb fframwaith dŵr, a'r nod yw cynyddu hyn i 42 y cant erbyn 2021.