Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch. Rwyf wedi gosod targedau uchelgeisiol ond realistig ar gyfer ynni adnewyddadwy. Fy nod yw datgarboneiddio ein system ynni, gan leihau costau hirdymor a sicrhau buddion economaidd i bobl Cymru. Erbyn diwedd 2016, roedd Cymru'n cynhyrchu 43 y cant o'n defnydd o drydan drwy ynni adnewyddadwy.