Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 21 Mawrth 2018.
Yn sicr, rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater. Fel y gwyddoch, nid yw pob rhan o'r maes ynni wedi'u datganoli inni. Pan oeddwn yn Llundain ddydd Llun, cyfarfûm â Claire Perry, Gweinidog Gwladol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a chawsom drafodaethau diddorol iawn ynglŷn â beth arall y gall ei wneud i'n cefnogi gyda'n dyheadau mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, felly er enghraifft, mewn perthynas ag ynni ar y tir ac ynni ar y môr. Yn amlwg, cefais siom wrth weld y tariff cyflenwi yn cael ei ddiddymu, gan fy mod yn credu'n gryf mewn paneli solar. Felly, yn sicr, rwy'n fwy na pharod i ystyried yr hyn a ddywedwch ynglŷn â thoeau gwyrdd, ac i weld a allwn roi rhywbeth ar waith yng Nghymru.