Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Fel yr Aelodau, perchnogion tir a pherchnogion tai, rwy'n bryderus ynglŷn â'r angen i reoli rhywogaethau goresgynnol estron, nid yn unig o ran eu twf, ond o ran eu hymlediad. Gwyddom eu bod yn un o'r rhesymau mwyaf dros golli bioamrywiaeth ledled y byd a'u bod yn achosi cryn ddifrod economaidd-gymdeithasol. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried o ddifrif fel Llywodraeth a byddwn yn mynd i'r afael ag ef. Byddaf yn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried yn llawn hefyd.