Grŵp 2: Dyletswydd i Adrodd ar Gydsyniad Gweinidogion Cymru (Adrannau 14 a 15) (Gwelliant 3)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:58, 21 Mawrth 2018

Diolch, Llywydd. Ar y mater yma rydym ni wedi dod i gytundeb, ac felly rwy'n falch o weld y gwelliant wedi’i osod gan y Llywodraeth. Fel y mae Julie James wedi ei amlinellu, ein prif bryder ni ddoe oedd i sicrhau bod adrodd yn ôl yn digwydd yn gyson i’r Cynulliad, ond bod yn rhaid i hynny ddigwydd mewn modd, wrth gwrs, a oedd yn rhesymol i’r Llywodraeth ac mewn modd a oedd yn gwneud sens i Aelodau'r Cynulliad hefyd. Felly, mae’r ffaith bod yr adrodd yn digwydd efallai'n cynnwys nifer o ddigwyddiadau yn dderbyniol iawn, achos mae yna sens lle'r ydych chi’n gweld yr holl bictiwr yn dod i'r fei. Felly, ar ôl trafodaethau gyda’r Llywodraeth, ac yn wyneb yr hyn y mae Julie James wedi’i ddweud, rydym ni’n falch iawn o weld y gwelliant yma a byddwn ni yn ei gefnogi fe.