11. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 6:18, 21 Mawrth 2018

Hoffwn innau ddiolch i bawb a fu yn paratoi'r Bil yma. Diolch i'r Llywodraeth a swyddogion y Llywodraeth am nifer o sgyrsiau adeiladol. Mae nifer o'r meysydd rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi bod yn gytûn, a mater o drafod sut i ddelio gyda nhw ar wyneb y Bil oedd hi. Mae yna un maes, wrth gwrs, lle nad oeddem ni'n cytuno, a dyna beth oedd ffrwyth ein dadl ni heddiw. Ond, bydd Plaid Cymru nawr yn cefnogi'r Bil yma yn ei gyfnod olaf.

Fel Julie James hithau, rwy'n sefyll fan hyn ar ysgwyddau rhywun arall sydd wedi gwneud llawer o waith ar y Bil yma, sef Steffan Lewis. Rwy'n gwybod y bydd e'n falch iawn o weld y Bil yn cael ei basio gan y Cynulliad heno. Bu Steffan yn dadlau dros y Bil yma ers yr haf diwethaf a dweud y gwir. Mae safbwynt Plaid Cymru bach yn wahanol i safbwynt y Llywodraeth. Rŷm ni'n credu bod y Bil yma yn ateb priodol i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac nid ydym ni'n gweld o reidrwydd fod rhaid aros i San Steffan gytuno â'r hyn sydd yn cael ei wneud. Rŷm ni wedi gweld ymdrech glir gan Llywodraeth San Steffan i gipio pwerau sydd yng nghymal 11 o'r Bil gadael yr Undeb Ewropeaidd ers y dyddiau cyntaf, ac yn wir wedi rhybuddio sawl gwaith—minnau a Steffan Lewis wedi rhybuddio sawl gwaith—mai dyna beth oedd yn digwydd. Nid ydym ni'n dal wedi gweld yn glir iawn a fydd hwn nawr yn cael ei ddatrys.

Mae'n Ddeddf bwysig, felly, rwy'n cytuno'n llwyr ar hynny. Wrth inni basio'r Ddeddf, rwy'n gobeithio y bydd hwn nawr yn grymuso Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â negodi gyda Llywodraeth San Steffan a gwneud yn siŵr nad oes modfedd o dir wedi'i ddatganoli yn cael ei ildio i Lywodraeth San Steffan. Mae'n hollbwysig ar gyfer trefn ac ar gyfer ffurf wrth inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd fod yna fframweithiau dros y Deyrnas Gyfunol. Nid yw Plaid Cymru yn gwrthwynebu hynny. Er bod gyda ni weledigaeth wahanol ar gyfer dyfodol y Deyrnas Gyfunol, nid ydym yn gwrthwynebu hynny o gwbl, ond rydym ni heb weld eto unrhyw arwydd o gydweithio gan Lywodraeth San Steffan ar y materion hyn. Ac mae'n amlwg na fyddai angen cymal 11 yn Neddf San Steffan oni bai bod y pwerau hynny yn dychwelyd yn awtomatig ac yn llyfn i'r lle hwn, heb fod y cymal fel argae, yn dal y pwerau yn ôl. Felly, mae'n hollbwysig ein bod ni'n chwalu'r argae yna ac yn llifo'r pwerau i'w dychwelyd yn uniongyrchol i'r Senedd yma fel ein bod ni'n gallu defnyddio'r pwerau ar ran pobl Cymru, neu hyd yn oed ddatganoli pellach tu fewn i Gymru, wrth gwrs, gan ddibynnu beth yw'r rôl briodol.